Ewch i’r prif gynnwys

Un o academyddion Prifysgol Caerdydd yn y Deml Fewnol

13 Rhagfyr 2021

Mae arbenigwr yn y Gyfraith Eglwysig wedi'i ethol yn un o Feistri Mainc Cymdeithas Anrhydeddus y Deml Fewnol.

Mae'r Athro Norman Doe, Cyfarwyddwr Rhaglen Meistr y Gyfraith Ganonaidd Canolfan y Gyfraith a Gwleidyddiaeth a Chanolfan y Gyfraith a Chrefydd, wedi’i gydnabod gan y Deml Fewnol am ei fri digymar yn y Gyfraith Eglwysig a Chyfraith yr Eglwys a’r Wladwriaeth yn ogystal â’i gyfraniadau rheolaidd a buddiol ym materion y Deml Fewnol. Bydd yr Athro Doe yn ymuno â'r Deml Fewnol yn Feinciwr Academaidd.

Mae'r Deml Fewnol yn Llundain yn un o Ysbytai’r Brawdlys, pedair cymdeithas broffesiynol bargyfreithwyr Cymru a Lloegr. Mae'r Deml Fewnol ar waith ers y 14eg ganrif ac mae ganddi'r hawl i benodi a dyrchafu bargyfreithwyr yng Nghymru a Lloegr. Mae'n ymfalchïo yn ei haelodau byd-eang sy’n anelu at gryfhau Rheol y Gyfraith a chreu cymuned gyfreithiol fywiog ac amryfal.

Diben Meistri'r Fainc yw gweinyddu materion y Deml Fewnol neu awdurdodi swyddogion eraill i wneud hynny. Yn ogystal â'r Meincwyr Academaidd, mae amryw fathau eraill o feincwyr megis y rhai Llywodraethu, Brenhinol, Anrhydeddus, Tramor ac Uwch Ychwanegol.

Wrth siarad am ei benodiad, meddai’r Athro Doe: "Mae’n dda gyda fi glywed y newyddion gwych yma ac rwy’n ddiolchgar iawn i’r Deml Fewnol. Mae cael eich ethol yn feinciwr yn anrhydedd mawr. Edrychaf ymlaen yn benodol at helpu i feithrin cysylltiadau agosach rhwng myfyrwyr sy’n astudio’r gyfraith yng Nghaerdydd a’r Deml Fewnol gan ehangu mynediad i’r Ysbyty yn rhan o’i gynlluniau estyn braich a chyfrannu cystal ag y bo modd at waith addysgol ehangach y Deml Fewnol."

Galwyd yr Athro Doe i'r bar yn 1980 ac, yn 2020, fe'i hetholwyd yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru a'r Gymdeithas Hanes Frenhinol.

Rhannu’r stori hon