Treial cyntaf y DU i asesu'r defnydd o wrthfeirysau i drin COVID-19 ar fin dechrau
9 Rhagfyr 2021
Mae’r treial clinigol cyntaf yn y DU, a fydd yn ymchwilio i weld a allai cyffuriau gwrthfeirysol helpu i lleddfu difrifoldeb COVID-19, ar fin dechrau.
Mae'r treial yn cael ei arwain gan Brifysgol Rhydychen ac mae'n cael ei gyflwyno yng Nghymru gan Brifysgol Caerdydd mewn partneriaeth ag Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Mae staff Prifysgol Caerdydd hefyd yn gweithio'n uniongyrchol gyda Rhydychen i gefnogi'r gwaith canolog sydd ei angen i gyflawni'r astudiaeth hon ledled y DU, yn ogystal ag arwain ar un o'r is-astudiaethau.
Nod astudiaeth PANORAMIC (Treial addasol platfform o wrthfeirysau newydd ar gyfer trin COVID-19 yn gynnar yn y gymuned) yw deall a allai pobl sydd mewn mwy o berygl o glefyd difrifol elwa o gymryd tabledi gwrthfeirysol.
Y gobaith yw y gallai'r dull hwn helpu i leihau difrifoldeb y feirws, cyflymu adferiad ac osgoi'r angen am driniaethau yn yr ysbyty. Bydd yr astudiaeth hefyd yn darparu mwy o ddata ar sut mae cyffuriau gwrthfeirysol yn gweithio mewn poblogaeth sydd wedi'i brechu gan fwyaf ac yn llywio penderfyniadau yn y dyfodol.
Mae'r triniaethau'n cynnwys Lagevrio, sydd eisoes wedi'i gymeradwyo gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd. Mae'r treial yn agored i bobl dros 50 oed, neu bobl 18-49 oed sydd â chyflwr iechyd sylfaenol gyda phrawf COVID-19 cadarnhaol (PCR neu LFT) a symptomau am lai na phum niwrnod.
Meddai Dr Andrew Carson-Stevens, Prif Ymchwilydd Cymru ar gyfer Astudiaeth PANORAMIC a Darllenydd Clinigol Diogelwch Cleifion o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd: "Mae hwn yn ddatblygiad mor bwysig o ran sut rydym yn trin ac yn rheoli COVID-19, yn enwedig i'r rhai sydd fwyaf agored i niwed, ac rwyf mor falch y bydd Cymru'n chwarae rhan annatod.
"Os ydych yn cyd-fynd â meini prawf yr astudiaeth, byddwch yn cael eich dewis ar hap i un o ddau grŵp, un i dderbyn y gofal gwrthfeirysol a safonol a grŵp arall a fydd yn derbyn gofal safonol. Os ydych yn y grŵp i dderbyn y triniaethau gwrthfeirysol newydd, anfonir eich meddyginiaeth atoch yn y post. Gofynnir i bawb sy'n cymryd rhan lenwi dyddiadur symptomau dyddiol ar-lein."
Meddai'r Athro Kerry Hood, Cyfarwyddwr y Ganolfan Treialon Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd, sydd hefyd yn cynrychioli Cymru ar dîm treial Rhydychen: "Yr hyn sy'n allweddol i'r astudiaeth hon yw dechrau triniaeth cyn gynted â phosibl, felly mae'n hanfodol eich bod yn cael prawf COVID os ydych yn teimlo'n sâl ac yn cofrestru ar gyfer yr astudiaeth cyn gynted ag y cewch eich canlyniadau.
"Mae cael triniaethau effeithiol i bobl sydd â COVID ysgafn yn hanfodol i ni leihau effaith yr haint hwn ar ein teuluoedd a'n cymunedau."
Dywedodd Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwr Cymorth a Chyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, sy'n cydlynu recriwtio i'r astudiaeth yng Nghymru yn genedlaethol, y gallai unrhyw un yng Nghymru gymryd rhan, waeth ble maent yn byw.
"Os ydych chi'n profi'n bositif byddwch chi'n derbyn testun sy'n eich cyfeirio at wefan PANORAMIC i gofrestru ac rydym yn annog pobl i weithredu'n gyflym gan fod yn rhaid dechrau triniaeth o fewn pum diwrnod i'r symptomau ddechrau," meddai.
Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru: "Rwy'n croesawu'r newyddion heddiw am yr astudiaeth newydd a chyfraniad Cymru. Yn ogystal â'r treial, os ydych yn wynebu'r risg uchaf o COVID-19 difrifol ac yn eithriadol o agored i niwed, efallai y byddwch yn cael triniaeth gwrthgyrff monoclonol niwtral neu driniaeth wrthfeirysol fel rhan o'ch gofal safonol a bydd eich bwrdd iechyd yn cysylltu â chi os byddwch yn profi'n bositif."
Os oes gennych brawf COVID-19 cadarnhaol, byddwch yn derbyn testun gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru gyda dolen i wefan astudio PANORAMIC. Os ydych chi'n gwneud prawf gartref sy'n bositif, yna gallwch gofrestru'n syth ar y wefan.
Mae rhagor o wybodaeth am yr hyn i'w ddisgwyl gan yr astudiaeth yng Nghymru ar gael ar wefan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.