Yr Athro Emeritws Roger Falconer yn Ymgysylltu â Chyngor Dŵr y Byd ar Ddiogelwch Dŵr Byd-eang ar ôl COVID-19
13 Rhagfyr 2021
Gwnaeth yr Athro Emeritws Roger Falconer o Ysgol Peirianneg Caerdydd oruchwylio gweminar rhyngwladol Cyngor Dŵr y Byd ar ddiogelwch dŵr byd-eang.
Yn ddiweddar, gwnaeth yr Athro Emeritws Roger Falconer, Athro Rheoli Dŵr yn gynt rhwng 1997 a 2018, oruchwylio gweminar rhyngwladol Cyngor Dŵr y Byd – ‘Diogelwch Dŵr Byd-eang ar ôl COVID-19: Gweithredu dros Agenda 2030 ar gyfer Datblygu Cynaliadwy’, ochr yn ochr â Madame Shi Qiuchi o Weinyddiaeth Adnoddau Dŵr Tsieina a Chadeirydd Tasglu Diogelwch Dŵr y Cyngor.
Gwnaeth yr Athro Falconer roi cyflwyniad yn y gweminar hefyd ar ‘Yr Angen am Atebion Cyfannol i Sicrhau Diogelwch Dŵr: yn Fyd-eang ac yn Rhanbarthol’. Mae’r cyflwyniad wedi’i grynhoi mewn fideo byr gan Sefydliad Yangtze ar gyfer Cadwraeth a Datblygiad.
Cyd-Gadeirydd Gweithgor Diogelwch Dŵr Byd-eang y Gymdeithas Ryngwladol ar gyfer Peirianneg ac Ymchwil Hydro-Amgylcheddol yw Roger. Yn ddiweddar, mae wedi gorchymyn cynnal a chyd-gadeirio pedwar gweminar ar agweddau gwahanol ar ddiogelwch dŵr byd-eang, sydd wedi denu dros 40,000 o wylwyr a sylwadau’n fyd-eang.
Yn ddiweddar, cafodd Roger ei benodi’n un o dri aelod o grŵp Thames Water Utilities Ltd o arbenigwyr annibynnol. Mae’r grŵp hwn yn cyflwyno adroddiadau ar y canlynol:
- deall achosion y llifogydd eithafol yn Llundain ym mis Gorffennaf 2021
- perfformiad asedau draenio’r cwmni
- atebion posibl i wella gallu Llundain i wrthsefyll glaw eithafol yn y dyfodol
Mae hefyd wedi’i benodi’n aelod o Bwyllgor Llywio Annibynnol Affinity Water er mwyn goruchwylio prosiect ar niwtralrwydd dŵr ar safleoedd cwmnïau newydd eu penodi ac y mae eu penodiad wedi’i amrywio. Nod y prosiect yw creu’r datblygiad tai newydd cyntaf yn y byd, ac ar raddfa, sy’n niwtral o ran dŵr, gan gynnwys sicrhau bod cartrefi newydd yn niwtral o ran dŵr mewn ffordd fesuradwy.