Rhodd hael yn ariannu bwrsariaeth peirianneg newydd i fyfyrwyr o Malaysia
10 Rhagfyr 2021
Mae’n bleser gan yr Ysgol Peirianneg gyhoeddi bod cymorth ariannol i fyfyrwyr peirianneg israddedig newydd o Malaysia.
Bydd Bwrsariaeth DPG Miller yn cefnogi myfyrwyr sy'n hanu o Malaysia ac sy’n dymuno mynd i Brifysgol Caerdydd i astudio peirianneg. Gan ddechrau ym mis Medi 2021, bydd y fwrsariaeth newydd yn rhoi £1,000 i gefnogi’r myfyriwr israddedig newydd sydd â’r cymwysterau gorau.
Bydd y fwrsariaeth ar gael dros y deng mlynedd nesaf, diolch i Donald Miller, a neilltuodd rodd o £10,000 er mwyn cefnogi myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn y dyfodol.
Graddiodd Donald Philip Glynn Miller (BSc 1940) yn Faglor Gwyddoniaeth mewn peirianneg mwyngloddio yng Ngholeg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy, coleg sefydlol Prifysgol Caerdydd. Yn drychinebus ym mis Chwefror 1945 ac yn 24 oed yn unig, lladdwyd y Swyddog Gwarantedig Miller tra oedd yn gwasanaethu gyda’r Llu Awyr Tactegol.
Ar ôl cael ei fagu yng Nghaerdydd, symudodd ei nai, sydd hefyd â’r enw Donald Miller, i Malaysia yn 1978. Er cof am ei ewythr, ac fel arwydd bach o ddiolchgarwch i’r bobl ac i’r wlad sydd wedi bod yn gartref iddo am ddeugain mlynedd, mae Bwrsariaeth DPG Miller yn gwahodd myfyrwyr sy’n breswylwyr yn Malaysia i elwa o’r wobr hon.
Dyfarnwyd y fwrsariaeth eleni i Liliana Inoue o Kuala Lumpur, Malaysia er mwyn astudio BEng Peirianneg Fecanyddol.
Wrth sôn am ddewis astudio ym Mhrifysgol Caerdydd, meddai Liliana, “Dewisais Gaerdydd oherwydd y sylwadau gwych ro’n i wedi’u clywed gan bobl am y ddinas, am gynhesrwydd y bobl leol, ac am harddwch y ddinas a’r cefn gwlad o’i hamgylch. Roedd strwythur y radd, y pynciau a oedd yn cael eu haddysgu, a’r canolbwynt ar addysgu ymarferol hefyd yn rhan arwyddocaol o’m penderfyniad. Mae’r Brifysgol yn cynnig llawer o fathau o gefnogaeth, fel rhaglenni mentora, a llawer o gymdeithasau a chlybiau sy’n cyd-fynd yn berffaith â’m diddordebau, fel tîm Formula Student, clwb pêl foli a sglefrio iâ.
Ers dod i Gaerdydd, dwi wedi cael amser gwych. Rwy’n edrych ymlaen gyda chyffro at weld sut rwy’n dysgu a thyfu wrth ochr fy nghyfoedion. Rwy’n ystyried gwneud Blwyddyn mewn Diwydiant er mwyn dod â mi gam yn nes at yrfa lawn boddhad mewn roboteg feddal, sef fy mhrif ddiddordeb ym maes peirianneg fecanyddol.”
Diolch i Donald Miller am ei rodd hael a fydd yn cefnogi ein myfyrwyr nawr ac am flynyddoedd i ddod. Rydyn ni’n dymuno’n dda i Liliana wrth astudio.