Perfeddion eirth gwynion wedi’u niweidio gan arian byw yn yr ysglyfaeth
6 Rhagfyr 2021
Mae barn bod llawer o arian byw yn sustemau treulio eirth gwynion wedi arwain at lai o ficrobau amrywiol yn eu perfeddion gan effeithio’n fawr ar eu hiechyd a’u gallu i ymaddasu a gwrthsefyll afiechyd
Yn ôl ymchwil Ysgol y Biowyddorau o dan adain y Dr Sophie Watson (ymchwilydd ôl-ddoethurol), mae arian byw yn wenwyn niweidiol sy’n ymwneud â llai o amrywiaeth facteriol a newid yng nghyflwr perfedd arth wen.
Meddai Sophie: “Does neb wedi ystyried erioed sut mae arian byw yn ysglyfaeth arth wen yn gysylltiedig â llai o amryw fathau o ficrobau yn ei pherfedd ac, ar y cyfan, does ond ychydig o rywogaethau lle mae’i astudio. Rydyn ni wedi dangos y gallai effeithiau arian byw ym mwyd anifeiliaid fod yn fwy cymhleth nag oedd yn hysbys o’r blaen."
O achos llai o amrywiaeth facteriol, gallai eirth gwynion fod yn agored i facteria niweidiol gan arwain at ragor o heintio ac afiechyd. Gallai effeithio ar eu gallu i ymaddasu hefyd am y bydd anifeiliaid yn esblygu ynghyd â bacteria eu perfeddion dros amser maith ac, felly, mae’r bacteria hynny’n addas iawn i’w helpu i dreulio prif faetholion eu bwyd a rhwystro bacteria niweidiol. Felly, gallai'r canfyddiadau fod yn arwydd bod cyrff eirth gwynion wrthi’n newid ac mae hynny’n bwysig iawn i’w gallu i dreulio bwyd a goroesi.
Mae rhai o’r farn bod microbau’r perfedd yn lleddfu gwenwynau amgylcheddol, gan gynnwys metelau trymion megis arian byw, ac mae diffyg yn y sustem honno yn achosi pryder.
Mae eirth gwynion yn tueddu i hela morloi a morfilod. Byddan nhw’n amsugno unrhyw arian byw sydd yn eu hysglyfaeth.
Astudiodd y tîm gyflwr perfeddion eirth gwynion ym Môr Beaufort, Cefnfor yr Arctig.
Ychwanegodd uwch ddarlithydd ac uwch awdur yr astudiaeth, y Dr Sarah Perkins: “Mewn ystyr ehangach, mae’n gwaith yn dangos y gall gweithgarwch pobl effeithio ar rywogaethau ardaloedd anghysbell, hyd yn oed."
Ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, Fondazione Edmund Mach (Yr Eidal), Prifysgol McGill (Quebec) ac Arolwg Daearegol UDA luniodd y papur sydd wedi’i gyhoeddi yng nghyfnodolyn Scientific Reports.