Dim ateb tymor byr i fwlch cynhyrchiant Cymru, yn ôl adroddiad
2 Rhagfyr 2021
Mae gweithgarwch ymchwil, datblygu ac arloesi yn y sector preifat yng Nghymru gyda’r isaf yn y DU ac mae'n ffactor pwysig ym mherfformiad gwael cynhyrchiant y genedl, yn ôl adroddiad newydd.
Astudiodd ymchwilwyr o Ysgol Busnes Caerdydd, sy'n rhan o Fforwm Cynhyrchiant Cymru, ddata'r Swyddfa Ystadegau Gwladol er mwyn deall her cynhyrchiant Cymru yn well.
Mae’r bwlch o ran sgiliau, y sector preifat llai ei faint ac ychydig o fuddsoddiad cyfalaf i'r wlad hefyd yn cyfrannu at berfformiad isel o ran cynhyrchiant, yn ôl yr astudiaeth.
Mae tarfu ar gytundebau masnach a gweithgarwch y porthladdoedd ar ôl Brexit drwy Ynys Môn a Sir Benfro, a’r difrod i fusnesau bach a chanolig eu maint (BBaChau) yn y sectorau lletygarwch a thwristiaeth hefyd yn fygythiadau i Gymru, ychwanega'r adroddiad.
Dyma a ddywedodd y prif awdur, yr Athro Andrew Henley o Ysgol Busnes Caerdydd, sy'n cydlynu Fforwm Cynhyrchiant Cymru: "Er bod heriau tebyg o ran cynhyrchiant ledled y DU, mae'r darlun yma yng Nghymru yn bryder mawr. Mae'r data'n dangos bod y bwlch cynhyrchiant rhwng Cymru a gweddill y DU wedi parhau’n eang yn ystod y degawd rhwng 2008 a 2019. A hynny er gwaethaf tair rhaglen saith mlynedd olynol o gymorth gan Gronfeydd Strwythurol yr UE."
Mae cynhyrchiant yn mesur yr allbwn economaidd y bydd pob gweithiwr yn ei gynhyrchu ac, yn 2019, roedd yr allbwn fesul awr a weithiwyd yng Nghymru yn 84.1% o’i gymharu â’r DU, sef y cynhyrchiant isaf ar draws holl ranbarthau'r DU a’r gwledydd datganoledig ac eithrio Gogledd Iwerddon.
Priodolir perfformiad cynhyrchiant gwan Cymru yn hanesyddol i ddad-ddiwydiannu o safbwynt y glofeydd a chynhyrchu metelau, yn enwedig yng nghymoedd y De.
Ychwanegodd yr Athro Henley: "Nid yw hyn yn rhywbeth sy'n mynd i gael ei ddatrys dros nos. Yn hytrach, bydd angen mesurau hirdymor a strategol arnon ni i sicrhau twf o ran cynhyrchiant yng Nghymru.
"Un fantais sylweddol sydd gennym yw’r polisïau rydyn ni wedi’u llunio gan fod y rhain wedi bod yn uchelgeisiol iawn yn ddiweddar. Ac er nad cynhyrchiant o reidrwydd yw amcan deddfwriaeth megis Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), gall fod yn fodd i gyflawni nodau llesiant y Ddeddf o ran ffyniant, gwydnwch, cynwysoldeb a datblygiadau sero net cynaliadwy os bydd Cymru'n buddsoddi mewn sgiliau, ymchwil a thechnolegau’r dyfodol."
Dyma a ddywedodd Joanna Swash, Prif Swyddog Gweithredol Grŵp Moneypenny: "Mae'r adroddiad hwn yn ein hatgoffa ein bod, megis yng ngweddill y DU, yn wynebu heriau sylweddol yng Nghymru o ran cynhyrchiant.
"Yn Moneypenny rydyn ni wedi gweld y gwahaniaeth cadarnhaol y gall ymgysylltu â gweithwyr a gwasanaethau eithriadol i gwsmeriaid ei wneud i helpu i wella cynhyrchiant cwmnïau. Rydyn ni hefyd yn buddsoddi yn y dechnoleg ddiweddaraf i gynorthwyo ein pobl a'n gwasanaethau, cynyddu effeithlonrwydd, a sicrhau ein bod yn parhau i arwain y ffordd ym maes cyfathrebu ar gontract allanol.
"Drwy weithio gyda'n gilydd, rhannu’r arferion gorau ochr yn ochr â'n partneriaid a thrwy helpu i hybu'r defnydd o dechnoleg ymhlith busnesau, gallwn wella lefelau cynhyrchiant yng Nghymru a gweddill y DU."
Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at rôl Banc Datblygu Cymru, a grëwyd yn 2017, sef helpu busnesau Cymru i ddefnyddio cronfeydd buddsoddi ychwanegol mewn partneriaeth â buddsoddwyr a benthycwyr masnachol i ysgogi twf mewn BBaChau a gweithgarwch ymchwil a datblygu.
Dyma a ddywedodd Robert Lloyd Griffiths OBE, Cadeirydd y Fforwm a Chyfarwyddwr Sefydliad y Cyfrifwyr Siartredig yng Nghymru a Lloegr: "Rydyn ni’n clywed llawer am sut mae cynhyrchiant uwch yn allweddol er mwyn datgloi potensial economaidd Cymru a sicrhau ffyniant. Mae'r dadansoddiad hwn yn dangos bod gennym rywfaint o waith dal i fyny i'w wneud ac yn cynnig atebion o ran sut y gallem wneud hyn.
"Gan ystyried allbwn cyntaf y Fforwm, rwy'n gobeithio y bydd y dadansoddiad a ddaw yn ei sgîl yn cael ei groesawu gan randdeiliaid ym myd busnes ac mewn cyd-destunau polisi er mwyn troi geiriau'n weithgarwch a dechrau ailadeiladu ac ail-addasu ein heconomi yn ystod y misoedd a'r blynyddoedd nesaf."
Mae’r adroddiad, 'Wales’ Productivity Challenge: Exploring the issues', yn un o wyth astudiaeth ranbarthol ledled y DU a chychwynbwynt y fforwm o ran tynnu sylw at ble y gall llunwyr polisi lleol a chenedlaethol wneud gwahaniaeth cadarnhaol o ran cynhyrchiant yng Nghymru.
Mae Fforwm Cynhyrchiant Cymru yn cynnwys ffigurau allweddol ym myd diwydiant, ymchwil a pholisi a chafodd ei sefydlu’n rhan o waith The Productivity Institute, sef buddsoddiad ar ffurf canolfan ymchwil newydd gwerth £32m gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) dan ofal Ymchwil ac Arloesedd y DU sy’n dod â deg prifysgol a sefydliad ymchwil blaenllaw at ei gilydd.