Gweithio ar flaen y gad gydag ymarfer caffael
2 Rhagfyr 2021
Mae Prifysgol Caerdydd wedi llofnodi Memorandwm o Gyd-ddealltwriaeth gyda'r Sefydliad Siartredig Caffael a Chyflenwi i ddatblygu ei galluoedd caffael mewnol a gwella ei chymwysterau caffael.
Y Sefydliad Siartredig Caffael a Chyflenwi (CIPS) yw sefydliad caffael a chyflenwi proffesiynol mwya'r byd. Dyma'r ganolfan ragoriaeth fyd-eang ar faterion rheoli caffael a chyflenwi. Mae gan CIPS dros 70,000 o aelodau mewn 150 o wledydd gwahanol, gan gynnwys pobl fusnes uwch, gweision sifil ar lefel uchel ac academyddion blaenllaw.
Bydd y cytundeb tair blynedd yn sefydlu fframwaith cydweithredol i gefnogi gweledigaeth gyfredol y Brifysgol ar gyfer y dyfodol, fel y'i nodir yn Y Ffordd Ymlaen2018-2023: Ail-lunio COVID-19.
Bydd y cytundeb, y cyntaf o'i fath i CIPS lle bydd achrediad uwch ar gyfer hyfforddiant a chymwysterau CIPS yn cael ei gyflawni drwy'r bartneriaeth waith agos, yn helpu i gryfhau ymhellach eu partneriaeth hirsefydlog gyda Phrifysgol Caerdydd ac Ysgol Busnes Caerdydd.
I'r Brifysgol, bydd y cydweithio'n cynnig cyfleoedd datblygu helaeth i staff academaidd a gwasanaethau proffesiynol yn y brifysgol, ynghyd ag ymchwilwyr, myfyrwyr a rhwydwaith cyn-fyfyrwyr y brifysgol.
Dywedodd Pennaeth yr Adran Logisteg a Rheoli Gweithrediadau yn yr Ysgol Busnes, yr Athro Robert Mason, "Mae gennym enw da am ymchwil, addysgu ac ymgysylltu ers tro ym maes caffael a chyflenwi, ond dros y blynyddoedd diwethaf rydym ni wedi ymdrechu i gynyddu ein presenoldeb ac felly erbyn heddiw cawn ein cydnabod yn awdurdod gwirioneddol yn y maes proses busnes hanfodol hwn. Mae'r cyswllt arloesol hwn gyda'r Sefydliad Siartredig Caffael a Chyflenwi yn cadarnhau ein henw da cynyddol yn y maes disgyblaeth ac yn cydnabod ein hangerdd, drwy ymchwil ac addysgu, i gefnogi dyfodol y proffesiwn ar adeg sydd yn ôl llawer yn allweddol."
Bydd adran caffael y Brifysgol yn ymuno â'r gymuned gaffael a chyflenwi fwyaf yn y byd, lle mae aelodau'n ymgymryd â hyfforddiant a phrofion moeseg i ddod yn weithwyr Siartredig proffesiynol drwy raglen o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus.
Mae'r cytundeb hwn yn ychwanegol i ddau achrediad CIPS sydd eisoes gan ddwy o raglenni ôl-raddedig Ysgol Busnes Caerdydd, MSc Rheoli Cadwyni Cyflenwi yn Gynaliadwy ac MSc Logisteg a Rheoli Gweithrediadau. Mae'r achrediad yn gadael i raddedigion y rhaglenni hyn dderbyn llwybr ychwanegol a gydnabyddir yn rhyngwladol at ddod yn aelodau Llawn o'r Sefydliad (MCIPS).
Dywedodd y Darllenydd mewn Caffael, Dr Jane Lynch, sy'n arwain y bartneriaeth ar ran Prifysgol Caerdydd: "Rydym ni'n falch iawn i ymuno â CIPS yn y cytundeb cyntaf hwn o’i fath iddyn nhw. Bydd cydweithio gyda CIPS yn cynorthwyo Prifysgol Caerdydd i arwain trwy esiampl mewn addysg uwch, gyda gwell ffocws ar werth am arian a buddion cymunedol yn ein hadran caffael.
“Caiff ein staff a'n myfyrwyr fanteisio ar lyfrgell adnoddau helaeth CIPS, digwyddiadau datblygu a phrofion moeseg blynyddol. Bydd hyn i gyd yn helpu i sicrhau ein bod ni'n ymarfer ac yn addysgu'r datblygiadau diweddaraf ym maes caffael, gan gydweddu ein gwybodaeth ni a'n myfyrwyr nid yn unig â'r corff proffesiynol mwyaf ar gyfer caffael a chyflenwi ond gyda phrifysgolion eraill ledled y byd."
Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Grŵp CIPS, Malcolm Harrison,"Mae hwn yn ddatblygiad gwych lle bydd y broses achredu gryfach drwy'r Memorandwm o Gyd-ddealltwriaeth yn dod â dau fudd mawr – yn gyntaf datblygu addysgu academaidd ym maes caffael a chyflenwi gyda mwy o gefnogaeth gan y diwydiant a chrebwyll busnes ac yn ail mwy o allu o fewn tîm caffael y Brifysgol ei hun.
"Bydd heriau yn bodoli yn y gadwyn gyflenwi am byth, felly mae angen i ni gryfhau ein hymdrechion i ddatblygu gweithwyr proffesiynol medrus sydd wedi'u hyfforddi drwy gymwysterau a hyfforddiant CIPS, graddau achrededig a phartneriaethau fel hyn. Efallai mai dyma fydd y cytundeb cyntaf o'r math hwn, ond bydd yn llwybr i eraill ddilyn. Rydym ni'n edrych ymlaen at weithio gyda thîm Caerdydd ac at lwyddiannau'r berthynas yn y dyfodol."