Dylanwadau cymdeithasol a seicolegol ar gaffael a phatrymau lleferydd mewn siaradwyr dwyieithog
30 Tachwedd 2021
Archwiliad o'r dylanwadau cymdeithasol a seicolegol ar batrymau lleferydd siaradwyr dwyieithog, o blant i oedolion ac ar draws nifer o ieithoedd, yw ffocws cyfrol newydd a gydolygwyd gan Dr Jonathan Morris o Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd.
Bu Dr Morris, sy'n Uwch-ddarlithydd a Chyfarwyddwr Ymchwil yn yr Ysgol, yn gweithio gyda Dr Robert Mayr o Brifysgol Metropolitan Caerdydd ar y rhifyn arbennig o'r cyfnodolyn Languages, a gyhoeddwyd gan MDPI Books mewn fformatau print a digidol. Nod Social and Psychological Factors in Bilingual Speech Production yw meithrin dealltwriaeth ddyfnach o effaith ffactorau cymdeithasol a seicolegol ar ddatblygiad lleferydd dwyieithog.
Ychwanegodd Dr Morris: "Gall ffactorau seicolegol gynnwys y defnydd o iaith gyntaf ac ail iaith, oed dechrau dysgu, a hyd y preswyliad yn y lleoliad ail iaith tra bod ffactorau cymdeithasol yn gallu cynnwys cyfeiriadedd diwylliannol ac ethnig, cefndir economaidd-gymdeithasol, neu ddynodwyr demograffig ehangach. Mae'r casgliad o bapurau yn y gyfrol newydd hon yn ystyried ffactorau cymdeithasol neu seicolegol mewn cyd-destunau gwahanol - rhai'n canolbwyntio ar siaradwyr sy'n blant ac eraill ar oedolion - ac ar draws amrywiol ieithoedd o Gymraeg a Saesneg i Arabeg, Galiseg, Almaeneg, Eidaleg, Portiwgaleg, Rwseg a Sbaeneg."
Yn ogystal â'i rôl yn gyd-olygydd, cyfrannodd Dr Morris erthygl yn edrych ar ddwyieithrwydd yng Nghymru yn benodol. Mae'r erthygl, Social influences on phonological transfer: /r/ variation in the repertoire of Welsh-English bilinguals, yn ystyried sut mae ffactorau cymdeithasol yn dylanwadu ar ynganu Cymraeg a Saesneg pobl ddwyieithog yng ngogledd Cymru.
Ychwanegodd Dr Morris: "Bu'n bleser cydweithio gyda Robert a'r cyfranwyr niferus ar y casgliad hwn o erthyglau. Maen nhw'n archwiliadau sy'n procio'r meddwl ac yn cynnig syniadau a safbwyntiau newydd ar effaith ffactorau cymdeithasol a seicolegol ar leferydd siaradwyr dwyieithog."