Ewch i’r prif gynnwys

Tîm Caerdydd ar banel ar gyfer gwobr lenyddol Ffrengig

30 Tachwedd 2021

Bydd tîm o fyfyrwyr o'r Ysgol Ieithoedd Modern yn chwarae rhan wrth ddyfarnu gwobr lenyddol Ffrengig o fri yn 2022.

Trefnir gwobr Choix Goncourt UK gan Adran Addysg Uwch, Ymchwil ac Arloesi Llysgenhadaeth Ffrainc yn y Deyrnas Unedig a'r Sefydliad Institut français du Royaume-Uni, mewn partneriaeth â chymdeithas lenyddol hanesyddol Ffrainc, yr Académie Goncourt.

Ar gyfer y wobr, mae myfyrwyr o brifysgolion Prydain yn cymryd rhan mewn grwpiau darllen i drafod a dadlau ynghylch y nofelau ar y rhestr fer ar gyfer y Prix Goncourt, sef fersiwn Ffrainc o’r Wobr Booker. Mae'r grwpiau darllen, sy'n cael eu cynnal yn Ffrangeg, wedi dechrau ar gyfer eleni ac, ym mis Mawrth 2022, cyhoeddir canlyniadau eu trafodaethau mewn seremoni yn llysgenhadaeth Ffrainc yn Llundain.

Eleni, y nofelau ar y rhestr fer yw Le Voyage dans l'Est gan Christine Angot, Enfant de Salaud gan Sorj Chalandon, Milwaukee Blues gan Louis-Philippe Dalembert, a La Plus Secrète Mémoire des hommes gan Mohamed Mbougar Sarr.

Meddai Marie Gastinel-Jones, darllenydd mewn Ffrangeg ac arweinydd y fenter, "Rydym wrth ein boddau bod ein myfyrwyr yn cymryd rhan yng ngwobr Choix Goncourt UK eleni. Mae hyn yn anrhydedd mawr i'n hadran Ffrangeg. Mae hefyd yn rhoi profiad gwych ac unigryw i'n myfyrwyr i ddefnyddio eu sgiliau iaith Ffrangeg a rhannu eu cariad at ddiwylliannau Ffrangeg eu hiaith."

Dywedodd Thomas May, sydd yn ei bedwaredd flwyddyn yn astudio Ffrangeg a Sbaeneg (BA), "Rwy'n hynod ddiolchgar i'r adran Ffrangeg am roi'r cyfle i mi gymryd rhan yn y Choix Goncourt. Bydd amrywiaeth a phwysigrwydd pob darn o lenyddiaeth Ffrangeg yn gwneud y penderfyniad ynghylch pa lyfr sy'n haeddu'r wobr yn anos byth. Fodd bynnag, rwy'n sicr y byddwn yn gweithio fel tîm i ddod i gasgliad cyfiawn a chadarn."

Bydd 13 o fyfyrwyr o'r Ysgol Ieithoedd Modern yn cymryd rhan ym mhroses Choix Goncourt UK. Dyma'r drydedd flwyddyn yn olynol i fyfyrwyr o bob cwr o'r DU gymryd rhan yng ngwobr Choix Goncourt UK. Eleni bydd tîm Prifysgol Caerdydd yn ymuno â chyfoedion o Brifysgol Leeds, Coleg y Brenin Llundain, Prifysgol Caergrawnt, Prifysgol Warwick, Prifysgol Aberdeen, Prifysgol Caerfaddon, Prifysgol St Andrews, Prifysgol Rhydychen, Prifysgol y Frenhines, Belfast, Y Brifysgol Agored, Prifysgol Durham, Prifysgol Southampton, Prifysgol Bryste a Phrifysgol Royal Holloway yn Llundain.

Gellir dilyn yr holl weithgareddau sy'n gysylltiedig â gwobr Choix Goncourt drwy'r hashnod #ChoixGoncourtUK ar y cyfryngau cymdeithasol.

Rhannu’r stori hon