Ysgol yn denu ysgolheigion rhyngwladol ar gyfer ymchwil ôl-ddoethurol
9 Rhagfyr 2021
Mae'r nifer uchaf erioed o ymchwilwyr ôl-ddoethurol rhyngwladol wedi ymuno â'r Ysgol Ieithoedd Modern eleni, gan ddenu cyllid gan Marie Skłodowska-Curie Actions (MSCA) a'r Academi Brydeinig.
Y pedwar Cymrawd Ymchwil yw Francesco Chianese, Joanna Chojnicka, a Angela Tarantini ac gyllidir gan yr MSCA a Forum Mithani a gyllidir gan yr Academi Brydeinig. Ymunodd yr ymchwilwyr i gyd â'r Ysgol rhwng mis Awst a mis Tachwedd 2021.
Mae gwaith yr ymchwilwyr yn cwmpasu ystod o bynciau amrywiol, ac rydym ni'n falch i'w croesawu i'n cymuned iaith fyd-eang.
Marie Skłodowska-Curie Actions (MSCA)
Francesco Chianese
Bydd Francesco Chianese, sydd wedi addysgu yn Turin ac ym Mhrifysgol Talaith California, Long Beach, yn archwilio cysyniad Eidal-igrwydd yng nghyd-destun yr ymfudo. Bydd ei waith felly'n canolbwyntio ar lenyddiaeth a diwylliant y diaspora Eidalaidd a'i atseiniau trawswladol. Bydd Chianese yn treulio blwyddyn gyntaf ei gymrodoriaeth ym Mhrifysgol Talaith California, Long Beach cyn ymuno â ni yng Nghaerdydd am yr ail flwyddyn.
Joanna Chojnicka
Bydd Joanna Chojnicka, sy'n ymuno â ni o Brifysgol Adam Mickiewicz yng ngwlad Pwyl, yn ymchwilio naratifau trawsnewid Pwylaidd a gyhoeddir ar gyfryngau cymdeithasol dethol (blogiau a sianelau YouTube) er mwyn ymchwilio i ddefnydd eu hawduron o arferion cyfieithu amlieithog a diwylliannol/ieithyddol wrth iddynt lywio drwy ddisgyrsiau rhywedd a rhywioldeb lleol/byd-eang. Mae’r prosiect disgyblaethol ‘trans’ yn archwilio’r potensial y rhagddodiad ‘trans’ ac yn clymu cysyniadau o gymdeithaseg ac astudiaethau iaith a chyfieithu at ei gilydd.
Angela Tarantini
Bydd Angela Tarantini yn dadansoddi gwaith dehonglwyr-berfformwyr iaith arwyddo sy'n cyfieithu byd cerddorol clyw-ganolog i fyd gweledol drwy drosi caneuon a chyngherddau byw i iaith arwyddo. Nod Tarantini, sy'n ymuno â ni o Brifysgol Monash yn Awstralia, yw datblygu fframwaith damcaniaethol rhyngddisgyblaethol i ddadansoddi’r arferion a enwyd o safbwynt cyfieithu a pherfformio, gan gynnwys gwneud perfformio’n gludydd ac yn un o elfennau hygyrchedd.
Cyllid yr Academi Brydeinig
Forum Mithani
Bydd prosiect tair blynedd Mithani a gyllidir gan yr Academi Brydeinig yn defnyddio dulliau o ddadansoddi disgwrs beirniadol ffeministaidd i archwilio cynrychiolaethau o famolaeth mewn llenyddiaeth, ffilm a dramâu teledu Japan. Gan ymuno â ni o Brifysgol Llundain SOAS, mae gwaith Mithani wedi'i wreiddio yng ngwaith ysgolheigion blaenorol ym maes astudiaethau ffilm mamolaeth a ffeministaidd. Bydd yn talu sylw penodol i waith awduron benywaidd a'u haddasiadau i ymchwilio i rôl rhywedd wrth gynhyrchu'r delweddau hyn a’r derbyniad a gânt.
Mae Pennaeth yr Ysgol yr Athro David Clarke wedi canmol ymdrechion cydweithwyr a Chymrodyr Ymchwil newydd yr Ysgol am eu llwyddiant yn sicrhau'r cyllid hwn. Dywedodd, "Mae'r rhain yn gynlluniau cymrodoriaeth hynod gystadleuol ac rwy'n gwybod bod y Cymrodyr a'u mentoriaid yn yr Ysgol wedi gweithio'n galed iawn i ddatblygu'r prosiectau rhagorol hyn. Bydd gwaith y Cymrodyr dros y blynyddoedd nesaf nid yn unig yn hynod o arwyddocaol i'w disgyblaethau penodol nhw ond bydd hefyd yn creu sgyrsiau newydd yn yr Ysgol fydd yn ysgogi'r diwylliant ymchwil yma."