Supporting capacity and capability in the freshwater sector
30 Tachwedd 2021
Yn ddiweddar, bu’r Sefydliad Ymchwil Dŵr yn cynnal cyfweliadau ag amrywiaeth o arbenigwyr er mwyn deall yn well anghenion dŵr croyw yn awr ac yn y dyfodol, a rôl rhanddeiliaid wrth ymdrin â’r anghenion hynny.
Wrth i ni wynebu colli rhywogaethau a chynefinoedd gwlyptir, a phroblemau cynyddol llygredd, mae angen i gymdeithas ddechrau gosod gwerth o’r newydd ar ddŵr croyw a’r manteision a ddaw yn ei sgîl. Mae’r newid yn yr hinsawdd yn gwneud hwn yn fater o’r brys mwyaf, gan fod rhannau o’r Deyrnas Unedig yn wynebu prinder dŵr difrifol a llifogydd trychinebus yn fynych.
Nododd Sefydliad Esmée Fairbairn ddŵr croyw fel ffocws amgylcheddol allweddol, ac fel maes lle gallent hwy, fel sefydliad elusennol, wneud gwahaniaeth arwyddocaol yn y dyfodol agos.
Yn gynharach eleni, comisiynodd y sefydliad dîm o ymchwilwyr o’r Sefydliad Ymchwil Dŵr, dan arweiniad Dr Eleanor Kean, i gynnal adolygiad o’r sefydliadau sy’n gweithio ar ddŵr croyw ar draws y Deyrnas Unedig, gyda’r nod o ddeall i ba raddau mae consensws ynghylch y sefyllfa bresennol, ac ar y cyfleoedd i’r sefydliad a’r sector ddatgloi newid.
Ymgynghorwyd â mwy na 100 o sefydliadau, o gwmnïau dŵr, i reoleiddwyr, a sefydliadau amgylcheddol.
Roedd y cyfranogwyr yn cydnabod bod cyrff dŵr croyw yn aros yn eu hunfan neu’n dirywio, ac roeddent yn cytuno bod llygredd gwasgaredig ac effaith gyfunol pwysau o sawl cyfeiriad yn llesteirio cynnydd.
Dywed yr Athro Isabelle Durance: "Mae angen brys i leihau ffynonellau nam dŵr croyw mewn modd mwy integredig i wyrdroi taflwybrau cyfredol, adfer cyfalaf naturiol lle bo hynny'n ymarferol a diogelu anghenion cenedlaethau'r dyfodol. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at sut mae cydweithrediadau yn allweddol i ddod o hyd iddynt atebion cynaliadwy i'r her hon".
Amlygodd yr awduron y gellid sicrhau effaith gryfach trwy ofalu bod sectorau’n cydgysylltu ymdrechion o amgylch gweledigaeth a rennir a nodau cyffredin. Gallai’r rhain gynnwys blaenoriaethu atebion seiliedig ar fyd natur, rhoi arferion rheoli tir gwell ar waith, ac integreiddio camau gweithredu ar raddfa dalgylch.
Dywed Dr Eleanor Kean: “Amlygodd y cydweithrediad pwysig hwn rhwng EFF a’r Sefydliad Ymchwil Dŵr y gwaith rhagorol sy’n seiliedig ar dystiolaeth sy’n cael ei wneud gan ystod o sefydliadau. Roedd dod â'u barn, eu profiadau a'u syniadau ar gyfer y dyfodol ynghyd yn gyfle i bwyso a mesur. Rwy'n gyffrous gweld sut y bydd yr adroddiad yn gweithredu fel man cychwyn ar gyfer mwy o weithredu i wella ecosystemau dŵr croyw ledled y DU”.
Er gwaethaf yr heriau, ymddangosai’r rhan fwyaf o’r ymatebwyr yn gadarnhaol am y dyfodol, ac roeddent yn cydnabod bod diddordeb cyfredol y cyhoedd, polisi a diwydiant mewn dŵr croyw glân a iach yn golygu bod hon yn adeg ddelfrydol i weithredu.
Ar ôl cyhoeddi’r adroddiad, ymgynghorodd PwC â’r tîm, a buont yn cynorthwyo i lywio adroddiad Sainsbury’s “Uncharted Waters: Preserving our most vital resource”.
Mae’r adroddiad llawn yn awr ar gael yma.