Ewch i’r prif gynnwys

Gellid defnyddio deallusrwydd artiffisial i ragweld tswnamis yn fanwl gywir

29 Tachwedd 2021

Gallai system rhybudd cynnar ddibynadwy i ganfod tswnamis fod gam yn nes diolch i ymchwil gan Brifysgol Caerdydd.

Yn sgîl dadansoddi tonnau sain y cefnforoedd ar ôl daeargrynfeydd tanddwr, dywed ymchwilwyr eu bod wedi gallu datblygu deallusrwydd artiffisial (AI) sy'n rhagweld pryd y gallai tswnami ddigwydd. Cyhoeddir eu canlyniadau heddiw yng nghyfnodolyn Scientific Reports.

Y gobaith yw y gallai'r dechnoleg hon gynorthwyo arbenigwyr i gael asesiadau amser real cywir o'r digwyddiadau daearegol hyn.

Dyma a ddywedodd Dr Usama Kadri o Ysgol Mathemateg Prifysgol Caerdydd: "Mae tsunamis yn cael effaith ddinistriol ar gymunedau. Mae datblygu dulliau manwl gywir o'u canfod yn gyflym yn allweddol i’r dasg o achub bywydau.

"Mae ein canfyddiadau'n dangos ein bod yn gallu dosbarthu mathau o ddaeargrynfeydd ac adnabod eu prif nodweddion yn sgîl eu signalau acwstig, a hynny mewn amser sydd bron â bod yn real. Bydd y dulliau hyn yn ychwanegu at y dechnoleg bresennol sy’n dadansoddi tswnamis mewn amser real ac yn offeryn arall y gall arbenigwyr sy'n gweithio i'w canfod eu defnyddio.

"Mae'r gwaith hwn yn rhan greiddiol o brosiect ehangach i greu system rhybudd cynnar mwy dibynadwy ar gyfer tswnamis."

At ddibenion eu hymchwil, dadansoddodd y tîm recordiadau sain ddwfn yn y cefnforoedd yn dilyn 201 o ddaeargrynfeydd yn y Môr Tawel a Chefnfor yr India.

Yn aml, bydd tswnamis yn digwydd ar ôl daeargrynfeydd fertigol, pan fydd platiau tectonig ar wyneb y ddaear yn symud i fyny ac i lawr yn bennaf yn hytrach nag yn llorweddol. Mae'r symudiadau hyn yn arwain at ddadleoli llawer iawn o ddŵr, gan greu tonnau hir iawn a all achosi difrod mawr ar y tir.

Mae'r symudiadau fertigol yn arwain at gywasgu'r dŵr ac yn anfon signalau sain penodol sy'n cludo gwybodaeth am ddynameg a geometreg y ffawtlin. Defnyddiodd Mr Bernabe Gomez, myfyriwr PhD yn y tîm ymchwil, yr wybodaeth hon i hyfforddi algorithmau deallusrwydd artiffisial (AI) i adnabod pryd y mae daeargryn fertigol wedi digwydd, ac yn eu barn nhw gellid defnyddio hyn i leoli tswnamis yn fanwl gywir yn y dyfodol mewn amser real.

Ychwanegodd Dr Kadri: "Mae’r symudiadau tectonig yn gymhleth iawn gan fod elfennau llorweddol a fertigol yn rhan ohonyn nhw. Gall rhai daeargrynfeydd greu tswnamis mwy o faint na rhai eraill. Gan ddefnyddio technegau prosesu signalau digidol, gallwn ni ddadansoddi recordiadau sain daeargrynfeydd tanddwr sy'n hyfforddi algorithmau deallusrwydd artiffisial (AI) i ddosbarthu'r math o ddaeargryn a'i faint. Cam sylweddol yw hyn o ran datblygu system rhybudd cynnar ddibynadwy ar gyfer tswnamis gan y gall y math o ddaeargryn bennu a fydd tswnami'n digwydd yn y lle cyntaf."

Rhannu’r stori hon