Ewch i’r prif gynnwys

Comics am ofal

29 Tachwedd 2021

Adrift gan Jonathan Clode a Brick. Un o'r comics sy'n ymddangos ar flog All Is Not Well.
Adrift gan Jonathan Clode a Brick. Un o'r comics sy'n ymddangos ar flog All Is Not Well.

Mae rhoi gofal yn rhan hanfodol o gymdeithas weithredol, iach a moesegol ond cyn y pandemig, roedd gofalu ymhlith y proffesiynau oedd yn cael eu diystyru fwyaf.

Mae prosiect sy'n cyhoeddi comics yn ymwneud â gofal wedi dechrau ar ei ail gam ac mae bellach yn canolbwyntio ar sut y gofalwyd am bobl ddigartref yn ystod y pandemig.

Prosiect ymchwil a ddechreuodd yn 2017 yw All Is Not Well – Comics About Care. Fe'i sefydlwyd gan Dr Ryan Prout, Darllenydd mewn Astudiaethau Sbaenaidd a'r awdur a'r gofalwr Jonathan Clode. Mae'r prosiect yn rhoi lle i stribedi comig arbrofol sy'n archwilio profiadau gofal, o safbwynt y gofalwr a'r person sy'n derbyn y gofal.

Bydd ail gam y prosiect yn comisiynu gwaith newydd am ddigartrefedd yng Nghymru gan awduron ac artistiaid comics er mwyn casglu lleisiau gweithwyr gofal critigol a phrofiadau'r rheini sy'n derbyn eu cymorth.

Bydd y prosiect yn cydweithio gydag elusen digartrefedd Caerdydd, Huggard, i ddefnyddio profiadau'r rheini sy'n gweithio yn eu canolfan, y mae rhai o'u plith wedi bod drwy'r system eu hunain, i lywio straeon newydd. Bydd y cam hwn yn y prosiect hefyd yn edrych ar sut roedd hi'n bosib i bobl nad oedd ganddyn nhw gartref aros gartref wrth i gyfnodau clo gael eu gorfodi. Beth oedd yn ei olygu iddyn nhw, a pha mor hir fydd rhai o'r mesurau a achoswyd gan y cyfnod clo yn parhau yn ein bywydau ar ôl y pandemig?

Wrth siarad am ail gam All Is Not Well, dywedodd Dr Prout, "Hoffem ni helpu i gyfrannu at newid canfyddiadau o'r hyn mae pobl sy'n gofalu ac yn cefnogi'r digartref yn ei wneud, ac amlygu'r heriau maen nhw'n eu hwynebu; dadwneud rhai o'r stereoteipiau am bobl ddigartref a deall y cysylltiad rhwng amgylchiadau presennol unigolyn a thrawma yn y gorffennol."

Fel yr esbonia Dr Prout, "Mae Jonathan yn gweithio ym maes gofal ac yn dod â gwybodaeth uniongyrchol am y sector i'r prosiect. Mae hefyd wedi ysgrifennu straeon a deialog ar gyfer comics. Rwy'n dod at y prosiect o safbwynt fy ymchwil ar gomics yn Sbaen lle cyrhaeddodd nofelau graffig y brif ffrwd yn 2007. Mae'r ddau ohonom ni'n gweld bod gan gomics y potensial i ymdrin â materion sydd angen i ni siarad mwy amdanyn nhw. Mae cymaint o ddiffyg cydnabyddiaeth i weithwyr gofal ac mae'r prosiect hwn yn canolbwyntio ar realiti gwaith gofal o ddydd i ddydd."

Yng ngham cyntaf y prosiect bu Prout a Clode yn gweithio gydag artistiaid ac awduron ar stribedi comig a gomisiynwyd yn arbennig ac a gyhoeddwyd ar flog All Is Not Well. Bydd hyn yn parhau yn yr ail gam ond mae'r prosiect bellach yn cynnwys cefnogaeth i gyhoeddi antholeg o'r holl stribedi.

Mae ail gam All Is Not Well yn bosibl diolch i gefnogaeth hael gan Arloesedd i Bawb, rhaglen sy'n anelu at sbarduno newid sylweddol yng ngweithgarwch arloesedd a throsi Prifysgol Caerdydd. Caiff ei gefnogi gan Gyllid Arloesi Ymchwil Cymru sy’n deillio o Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Gwahoddodd Arloesedd i Bawb brosiectau oedd yn ymdrin ag effaith Covid gan edrych ymlaen at gyfnod ar ôl y pandemig.

Rhannu’r stori hon