Mae gwobr mawr ei bri yn dathlu effaith dau brosiect ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd
29 Tachwedd 2021
Mae dau brosiect ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd ymhlith enillwyr Gwobr Dathlu Effaith 2021 y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC).
Cipiodd Yr Athro Jenny Kitzinger o’r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant, a'r Athro Celia Kitzinger o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, wobr Effaith Eithriadol ym maes Polisïau Cyhoeddus ar gyfer eu prosiect ar newid y gyfraith i hyrwyddo penderfyniadau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn achos cleifion mewn "coma".
Cafodd Dr Rebecca Windemer, gynt o Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd, wobr Effaith Eithriadol Gyrfa Gynnar am ddylanwadu ar bolisïau a thrafodaethau ar ystyriaethau diwedd oes o ran ynni adnewyddadwy ar y tir.
Gwell penderfyniadau er budd cleifion
Roedd ymchwil yr Athro Jenny Kitzinger, a wnaed ar y cyd â'i chyd-ymchwilydd a'i chwaer yr Athro Celia Kitzinger, yn astudio sut y gwneir penderfyniadau am driniaeth sy'n cynnal bywyd yn achos cleifion sy’n wynebu anhwylderau ymwybyddiaeth cyfnod estynedig.
Cynhaliwyd cyfweliadau manwl gyda theuluoedd cleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, gan olrhain cleifion drwy'r systemau gofal iechyd a chyfreithiol dros gyfnod o amser wrth i benderfyniadau gael eu gwneud am eu triniaeth.
Roedd eu canfyddiadau yn gymorth i newid y gyfraith ac yn sylfaen ar gyfer canllawiau proffesiynol newydd sydd wedi gwella'r broses o wneud penderfyniadau dros gleifion a oedd weithiau'n cael eu trin heb ystyried eu dymuniadau eu hunain ac yn groes i'w buddiannau gorau yn am
Dyma a ddywedodd yr Athro Jenny Kitzinger: "Bydd un o bob tri ohonon ni yn wynebu diwedd ein bywyd yn methu gwneud penderfyniadau am driniaeth feddygol ddifrifol ar ein cyfer. Mae gofalu bod prosesau da yn eu lle yn allweddol i sicrhau gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.
"Mae Celia a minnau'n falch o fod wedi cyfrannu at welliannau yn y maes hwn ac yn ddiolchgar iawn i'r holl weithwyr proffesiynol cyfreithiol a gofal iechyd proffesiynol a weithiodd gyda ni i sicrhau bod ein hymchwil yn sylfaen ar gyfer newidiadau cadarnhaol yn y gyfraith ac mewn canllawiau proffesiynol.
"Rydyn ni hefyd yn ddyledus iawn i'r teuluoedd a rannodd eu profiadau gyda ni yn hael wrth iddyn nhw ymdrechu i sicrhau bod eu hanwyliaid yn cael eu trin yn unigolion a bod parch at eu gwerthoedd a'u dymuniadau."
Effaith sylweddol
Astudiodd ymchwil efrydiaeth ddoethurol Dr Rebecca Windemer, a ariannwyd gan yr ESRC, ar ffermydd gwynt a solar ar y tir a'r hyn sy'n digwydd pan fyddan nhw’n cyrraedd diwedd eu caniatâd cynllunio 25 mlynedd.
Mae ei hymchwil wedi cael effaith sylweddol ar lunwyr polisïau'r llywodraeth, y diwydiant gwynt Ewropeaidd, y diwydiant cynllunio, gwleidyddion a'r cyhoedd yn ehangach yn y DU.
Arweiniodd hefyd at ddatblygu polisi diwedd oes ar gyfer ffermydd gwynt a solar ar y tir yng Nghymru a dylanwadodd ar flaenoriaethau datblygwyr ffermydd gwynt drwy ddangos na fydd cymunedau bob amser yn cefnogi ail-bweru, sef gosod tyrbinau gwynt newydd yn lle’r hen rai.
Dyma a ddywedodd Dr Windemer, sydd bellach yn Ddarlithydd mewn Cynllunio a Dylunio Amgylcheddol ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr: "Bydd cynyddu’r ynni rydyn ni’n ei gynhyrchu yn sgîl ynni adnewyddadwy yn chwarae rhan allweddol wrth gyrraedd targedau sero net. Fodd bynnag, mae’r lle ar gyfer seilwaith ynni adnewyddadwy yn gyfyngedig ac felly mae'n bwysig ystyried sut rydyn ni’n gwneud penderfyniadau ynghylch dyfodol safleoedd sy'n bodoli eisoes. Nid yw gwneud penderfyniadau'n syml gan fod safleoedd neu'r defnydd tir cyfagos wedi newid dros amser ac yn sgîl y ffaith i gymunedau lleol gael gwarant yn aml y byddai'r seilwaith yn cael ei symud oddi yno ar ôl 25 mlynedd.
"Mae fy ymchwil wedi rhoi ffocws i'r mater hwn, yn enwedig drwy dynnu sylw at bwysigrwydd ystyried barn a phrofiadau’r gymuned a'r angen am bolisi cynllunio clir. Bydd y wobr hon yn fy ngalluogi i greu rhagor o effaith drwy rannu fy nghanfyddiadau a'm hargymhellion ar raddfa ryngwladol." Bellach yn ei nawfed flwyddyn, mae Gwobr Dathlu Effaith yr ERCS yn gyfle blynyddol i gydnabod a dathlu llwyddiant ymchwilwyr a ariennir gan yr ESRC o ran cyflawni a galluogi effaith economaidd neu gymdeithasol eithriadol yn sgîl ymchwil ragorol.
Dyma a ddywedodd Cadeirydd Gweithredol dros dro’r ESRC, yr Athro Alison Park: "Mae ein cystadleuaeth yn cydnabod economegwyr a gwyddonwyr cymdeithasol mwyaf blaenllaw'r DU ac yn amlygu sut mae eu gwaith yn gwneud gwahaniaeth i bobl a sefydliadau yn y DU a ledled y byd.
"Mae enillwyr y gwobrau eleni yn enghreifftiau gwych gan eu bod yn dangos sut mae'r gwyddorau cymdeithasol yn allweddol wrth helpu cymunedau a busnesau i lywio heriau cenedlaethol a byd-eang allweddol, gan gynnwys y broses o adfer yn dilyn y pandemig. Calonogol hefyd yw gweld cynifer o dimau ymchwil yn rhan o hyn, a bod rôl allweddol cydweithio a gweithio mewn tîm ym maes ymchwil yn cael ei chydnabod."
Gwyliwch y rhestr lawn o enillwyr a'r sawl a gyrhaeddodd y rownd derfynol.