Astudiaeth yn awgrymu bod bocsio amatur yn gysylltiedig â risg uwch o nam ar yr ymennydd a dementia cynnar
25 Tachwedd 2021
Mae bocsio amatur yn gysylltiedig â risg uwch o nam gwybyddol a dementia cynharach, yn ôl astudiaeth a wnaed gan Brifysgol Caerdydd.
Canfu'r tîm ymchwil fod dynion a oedd wedi bocsio yn eu hieuenctid ddwywaith yn fwy tebygol o fod â nam tebyg i glefyd Alzheimer na'r rhai nad oeddent wedi bocsio. Roedd hefyd yn gysylltiedig â dementia cynharach – tua phum mlynedd yn gynharach.
Yn ôl yr ymchwilwyr, mae eu canfyddiadau’n awgrymu y dylid ystyried gwahardd ergydio’r pen yn y gamp amatur.
Mae’r astudiaeth, y cyntaf i edrych ar effeithiau hirdymor bocsio amatur ar yr ymennydd, wedi’i chyhoeddi yn Clinical Journal of Sport Medicine. Dywed yr ymchwilwyr fod hyn yn ychwanegu at y dystiolaeth gynyddol bod cysylltiadau rhwng dementia a chwaraeon a'r ddadl barhaus ar fesurau diogelwch.
Dywedodd yr Athro Peter Elwood, Athro Anrhydeddus yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd a’r awdur arweiniol: “Gwyddwn fod bocsio proffesiynol yn achosi niwed trawmatig a chronig i’r ymennydd, ond nid oes fawr ddim ymchwil hirdymor wedi’i gwneud i’r broblem hon ym myd bocsio amatur.
“Felly, mae ein hastudiaeth yn cynnig peth o'r dystiolaeth orau sydd ar gael sy’n awgrymu bod bocsio amatur yn gysylltiedig â niwed hirdymor i’r ymennydd y gellir ei fesur yn glinigol, sy’n dod i’r amlwg fel nam tebyg i glefyd Alzheimer cynharach.
“Dros y blynyddoedd, mae mesurau rheoli mwyfwy tynn yn y gamp amatur, gyda phyliau byrrach a phenwisg orfodol, yn golygu bod y siawns o niwed difrifol i'r ymennydd yn llawer llai, ond mae bocsio’n dal i gael effaith hirdymor go iawn.
“Ymddengys fod gwahardd ergydio’r pen yn fesur ataliol derbyniol, gan na fyddai hyn yn lleihau agwedd gystadleuol y gamp ac yn sicrhau bod ei manteision corfforol a chymdeithasol sylweddol diamheuol yn parhau.”
Defnyddiodd y tîm ymchwil Astudiaeth Carfan Caerffili i gasglu tystiolaeth o ragfynegyddion dirywiad gwybyddol a dementia.
Mae'r astudiaeth yn seiliedig ar sampl gynrychioliadol o 2,500 o ddynion a oedd yn byw yng Nghaerffili, De Cymru, ac a oedd rhwng 45 a 59 oed pan wnaethant gytuno i gymryd rhan yn yr astudiaeth ym 1979.
Dilynwyd yr unigolion am 35 mlynedd, a phob pum mlynedd, cofnodwyd gwybodaeth am eu ffordd o fyw, eu hymddygiad, eu hiechyd, eu gweithgareddau ac unrhyw salwch drwy gyfweliad, archwiliad clinigol ac archwiliad o’u cofnodion meddygol. Cawsant sawl prawf gwybyddol, hefyd. Ar ddiwedd yr astudiaeth yn 2014, casglwyd tystiolaeth o ddementia o gofnodion meddygol.
Yn rhan o’r astudiaeth hon, dywedodd 73 o sampl o 1,123 o ddynion y gwnaethant focsio “o ddifrif” pan oeddent yn iau.
Pan oeddent rhwng 75 a 89 oed, dangosodd traean o'r rhai a oedd wedi bocsio arwyddion o nam gwybyddol o'u cymharu â thua phumed o'r dynion nad oeddent wedi bocsio. Mae hyn yn gynnydd deublyg “sylweddol” mewn nam gwybyddol, meddai’r ymchwilwyr, ac mae’n gynnydd triphlyg, braidd, mewn nam tebyg i glefyd Alzheimer.
Dangosodd yr astudiaeth bod y dynion a oedd wedi bocsio wedi datblygu dementia bron i bum mlynedd yn gynharach o’u cymharu â'r rhai nad oeddent wedi bocsio.
Yn ôl yr Athro Elwodd, er bod sampl o 73 o ddynion yn nifer gymharol fach o bobl i’w hastudio, mae’n beth brin i focswyr amatur gael eu hastudio’n hirdymor. Felly, mae’n cynnig tystiolaeth werthfawr ar gyfer y ddadl barhaus ar anafiadau i'r pen a chwaraeon cyswllt.
“Mae dementia’n effeithio ar filiynau o bobl, a dim ond yn awr y mae’r cysylltiadau rhwng y clefyd ofnadwy hwn a rhai mathau o chwaraeon cyswllt yn dechrau dod i’r amlwg,” meddai’r Athro Elwood.
“Mae ymchwil bellach yn y maes hwn yn hanfodol i ni allu cyflwyno mesurau syml yn awr i amddiffyn iechyd y cenedlaethau sydd i ddod.”