Ffilmiau ymchwil sy’n gosod gwyddoniaeth wrth galon COP Cymru
24 Tachwedd 2021
Dangoswyd gwaith ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd sy'n helpu i fynd i'r afael â heriau byd-eang yn yr hinsawdd mewn cyfres o fideos newydd sy’n rhan o Wythnos Hinsawdd Cymru.
Mae'r gyfres o fideos #SmallNationsBigIdeas yn cynnwys bron i 40 fideo sy'n proffilio mentrau ymchwil ac arloesedd o bedair prifysgol yng Nghymru, ac mae’r prosiectau dan arweiniad Prifysgol Caerdydd yn cyfrif am fwy na chwarter y rhai a gafodd sylw.
Nod y fideos, a gafodd eu lansio ddydd Llun 22 Tachwedd, yw gosod gwyddoniaeth wrth galon y digwyddiad ar yr hinsawdd sy’n digwydd drwy gydol yr wythnos ac sy’n dwyn yr enw COP Cymru eleni oherwydd ei fod yn digwydd tua’r un pryd â’r gynhadledd ar yr hinsawdd fyd-eang yn Glasgow a gynhaliwyd yn gynharach yn y mis.
Dywed y tîm sydd y tu ôl i'r fideos 1-2 munud, sef Rhwydwaith Ymchwil Cenedlaethol Sêr Cymru ar gyfer Carbon Isel, Ynni a'r Amgylchedd (NRN-LCEE), fod yn rhaid wrth arloesedd i droi ymrwymiadau gwleidyddol cynhadledd COP yn realiti o ran sut rydyn ni’n cynhyrchu, yn storio ac yn defnyddio ynni, sut rydyn ni’n rheoli ein cefn gwlad fel y gall natur wneud ei rhan, yn ogystal â rhagor o ddealltwriaeth ynghylch canlyniadau newidiadau yn yr hinsawdd.
Dyma a ddywedodd Yr Athro Mike Bruford, Deon Cynaliadwyedd Amgylcheddol Prifysgol Caerdydd: "Rwy'n falch o weld cymaint o gydweithwyr ar draws llu o ddisgyblaethau yn cymryd rhan yn y fenter bwysig hon i nodi dechrau Wythnos Hinsawdd Cymru.
"Mae'n dyst i'n hymrwymiad yma ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yn wir ar draws sector addysg uwch Cymru yn gyffredinol, i ymgymryd ag ymchwil a dangos tystiolaeth hynod bwysig ar yr hinsawdd fyd-eang, ei heffeithiau ar y ddynoliaeth a bioamrywiaeth a'r ffyrdd y gallwn ni ddechrau symud i ffwrdd o ddyfodol nad oes yr un ohonon ni ei eisiau."
Mae'r ffilmiau'n digwydd ar ôl adolygiad diweddar gan Lywodraeth Cymru a ganfu fod bron i draean o'r holl ymchwil sy’n digwydd yng Nghymru yn mynd i'r afael â Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig.
Mae gan Gymru, y bydd gwyddonwyr yn ei henwi’n amlach na'r cenhedloedd sy'n gystadleuwyr iddi, gryfderau ymchwil penodol hefyd o ran NDCau sy'n ymwneud â'r amgylchedd drwy gymryd camau ar yr hinsawdd, gwarchod bywyd ar y tir a bywyd islaw’r dŵr, yn ôl yr adolygiad.
Dyma ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd sy'n ymddangos yng nghyfres fideo #SmallNationsBigIdeas:
- Dr Andrea Collins a'r Athro Max Munday - Lliniaru'r allyriadau yn sgîl digwyddiadau cyhoeddus mawr
- Yr Athro Isabelle Durance - Dull integredig o ymdrin ag ecosystemau dŵr croyw i fynd i'r afael ag argyfyngau yn yr hinsawdd a byd natur
- Kathryn Whittey - Riffiau Cwrel Artiffisial
- Dr James Bain - Pontio o nwy naturiol i hydrogen er mwyn cynhyrchu trydan
- Marina Kovaleva - Amonia’n ddewis gwyrdd yn lle tanwydd ffosil
- Dr Meysam Qadrdan - Datgarboneiddio gwresogi yn y sector tai
- Dr Muditha Abeysekera - Rheoli'r galw am ynni i wella effeithlonrwydd a helpu’r dasg o symud i drydaneiddio
- Dr Samantha Buzzard - Rhagweld cynnydd yn lefel y môr yn sgîl ffurfio llynnoedd yn yr Antarctig
- Dr Sarah Christofides - Glaswellt a da byw cnoi cil sydd o dan straen
- Dr TC Hales a Sian Stephen - Pwysigrwydd adfer coedwigoedd trofannol
- Dr Sindia Sosdian - Deall asideiddio yn y cefnforoedd yn y gorffennol, y presennol a'r dyfodol
Ychwanegodd yr Athro Burford: "Fel mae enw'r ymgyrch yn ei awgrymu, rydyn ni'n cyfrannu yn llawer mwy na’r disgwyl o ran ymchwil ar yr hinsawdd ac ynni yng Nghymru ac mae'r ffilmiau hyn yn chwarae eu rhan wrth gyfleu'r neges honno i gynulleidfa ehangach.
"Gadewch inni obeithio y gallwn ni ychwanegu at fomentwm COP a chanolbwyntio ar gamau gweithredu yn sgîl yr ymchwil a'r arloesedd i beri mai Wythnos Hinsawdd Cymru fydd cychwynbwynt ein hymateb rhanbarthol i'r argyfwng yn yr hinsawdd."
Yng nghwmni Julie James AS, Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru ac Arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas, bydd yr Athro Bruford yn cymryd rhan mewn trafodaeth ar-lein sy’n rhan o gyfres o ddigwyddiadau COP Cymru fydd yn para am wythnos.
O dan gadeiryddiaeth yr Athro Lorraine Whitmarsh, Cyfarwyddwr y Ganolfan Newid Hinsawdd a Thrawsnewidiadau Cymdeithasol (CAST), bydd y panel yn trin a thrafod y cynnydd a wnaed gan eu sefydliadau ers i bob un wneud datganiad ar yr argyfwng yn yr hinsawdd yn 2019.