Hyfforddiant pontio ar gyfer Fferyllydd sy’n symud i Feddygaeth Deuluol
30 Tachwedd 2021
Yn ddiweddar, cyhoeddodd Alison Bullock a Sophie Bartlett o dîm CUREMeDE, ochr yn ochr â Kate Spittle o Addysg a Gwella Iechyd Cymru (HEIW), erthygl yn y cyfnodolyn, BMJ Open.
Roedd yr erthygl, o'r enw 'I thought it would be a very clearly defined role and actually it wasn’t’: a qualitative study of transition training for pharmacists moving into general practice settings in Wales, yn canolbwyntio ar werthuso rhaglen hyfforddi blwyddyn yng Nghymru i gefnogi fferyllwyr, sydd wedi gweithio mewn ysbytai neu leoliadau cymunedol o'r blaen, wrth bontio i weithio yn yr amgylchedd meddygaeth deuluol. Mae’r papur yn archwilio anghenion ‘fferyllwyr’ ynghyd â’r rhwystrau a’r ffactorau galluogi i’w hintegreiddio.
Cynhaliodd Alison a Sophie, gyda chymorth allweddol gan Kate, gyfres o grwpiau ffocws a chyfweliadau dros y ffôn gyda fferyllwyr a gofrestrwyd ar y rhaglen yn 2018/19 a'u tiwtoriaid addysgol. Casglwyd data gan gyfranogwyr ar ddau achlysur: hanner ffordd drwy'r rhaglen flwyddyn ac ar ddiwedd y rhaglen.
Daw'r erthygl i'r casgliad bod fferyllwyr yn wynebu rhai rhwystrau wrth integreiddio i leoliadau meddygaeth deuluol ond bod y rhaglen hyfforddi ffurfiol gyda thiwtor dynodedig wedi helpu i hwyluso'r newid hwn. Mae rôl y fferyllydd mewn lleoliad o'r fath yn gymharol newydd, ond mae diffyg dealltwriaeth o'u rôl a'u cwmpas ymarfer gan y tîm meddygaeth deuluol ehangach. Fodd bynnag, roedd y rhaglen bontio un flwyddyn wedi'i strwythuro o amgylch fframwaith cymhwysedd a oedd yn hwyluso dealltwriaeth gyfatebol o rôl y fferyllwyr ac yn annog cydweithredu rhyngbroffesiynol.
Daw'r erthygl i ben gyda chyfres o argymhellion a phwyntiau i'w hystyried ar gyfer fferyllwyr, gweithwyr proffesiynol ym maes meddygaeth deuluol ac addysgwyr sy'n cefnogi pontio.
Mae testun llawn yr erthygl ar gael yn BMJ Open.