Dyma aelodau newydd y tîm
23 Tachwedd 2021
Mae'r tîm darganfod meddyginiaethau arloesol ym Mhrifysgol Caerdydd wedi ehangu, wrth i aelodau newydd ymuno â'r ganolfan arbenigedd sy’n canolbwyntio ar ddod o hyd i therapïau newydd.
Mae Ross Riseley a Thomas Brown yn ymuno â'r Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau, a byddan nhw’n cyfrannu at brosiectau hynod bwysig sy'n anelu at ddarganfod meddyginiaethau newydd a fydd yn effeithio ar fywydau cleifion.
Ar ôl cwblhau astudiaethau ôl-raddedig yn y Sefydliad, ymunodd Ross Riseley â'r Sefydliad yn Gynorthwy-ydd Ymchwil.
"Gwnes i radd MChem mewn Cemeg lle roeddwn i'n ddigon ffodus i wneud fy mhrosiect meistr gyda'r Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau. Roedd hyn yn fy helpu i ddeall sut mae’r Sefydliad yn gweithio a bues i’n cydweithio â'i aelodau, ac wedyn ymunais i â'r Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau ym mhennod nesaf fy ngyrfa.
"Rwyf bellach yn Gynorthwy-ydd Ymchwil ar brosiect sy'n ymchwilio i seramidas asid a'i rôl o ran dod o hyd i feddyginiaethau newydd," meddai Ross.
Mae Thomas Brown, sydd â chefndir mewn bioleg bôn-gelloedd a datblygu therapïau ar gyfer canser, yn ymuno â'r Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau, a bydd yn gweithio ar nifer o brosiectau darganfod cyffuriau.
"Ar ôl cwblhau fy ngradd mewn Gwyddoniaeth Fiofeddygol a gradd meistr mewn Peirianneg Fiolegol a Biobrosesu, bues i’n gweithio mewn ystod eang o gyd-destunau ymchwil, gan ganolbwyntio'n bennaf ar ddatblygu therapïau ym maes ymchwil canser a bioleg bôn-gelloedd.
"Cefais fy nenu yn gyntaf i weithio gyda'r Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau gan ei fod yn gyfle i gyfrannu at ddatblygu therapïau newydd ar gyfer problemau mwyaf y ddynolryw. Mae hefyd yn gyfle delfrydol i ddysgu ac astudio rhagor am fiocemeg y problemau hyn.
"Bydd fy ngwaith yn y Sefydliad yn cwmpasu dau brosiect sy’n canolbwyntio ar wybod mwy am fiogemeg ystod eang o ganserau wrth iddyn nhw ddatblygu ac ymledu yn ogystal â chyflwyno ffyrdd newydd o drin y clefydau hyn," meddai Thomas.