Research explores association between school absence, exclusion and pupils’ mental health
25 Tachwedd 2021
Mae colli ysgol yn rheolaidd yn effeithio ar ddyfodol plentyn, nid yn unig drwy ei gyflawniad addysgol ond hefyd yn gymdeithasol ac yn ddatblygiadol.Nawr, mae ymchwilwyr yn dweud bod yr absenoldebau hyn yn arwydd posibl o iechyd meddwl gwael ar hyn o bryd neu yn y dyfodol, ac yn dweud y gellid eu defnyddio i dargedu asesiadau hanfodol ac ymyrraeth gynnar a allai newid bywydau.
Mae disgyblion ag anhwylderau iechyd meddwl a niwroddatblygiadol (e.e. ADHD, awtistiaeth) neu sy'n hunan-niweidio yn fwy tebygol na'u cyd-ddisgyblion o golli'r ysgol o ganlyniad i fod yn absennol neu gael eu gwahardd.
Gweithiodd yr Athro Anita Thapar o Canolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc ar yr astudiaeth ddiweddar hon, a oedd yn tynnu sylw at bwysigrwydd strategaethau integredig mewn ysgolion a strategaethau gofal iechyd i helpu pobl ifanc i ymgysylltu â byd addysg.
Cafodd yr astudiaeth ei harwain gan yr Athro Ann John o Brifysgol Abertawe, sydd hefyd yn arwain ffrwd waith ymchwil yng Nghanolfan Wolfson.
Professor John said: “"Mae plant ag iechyd meddwl gwael sy'n niwroamrywiol neu sy'n hunan-niweidio yn aml yn cael trafferth yn yr ysgol. Dylai gweithwyr iechyd ac addysg, gwasanaethau, a llunwyr polisïau fod yn ymwybodol y gallai plant sy’n absennol yn rheolaidd fod yn profi problemau emosiynol, boed hynny’n rhywbeth sy’n arwain at ddiagnosis yn yr ysgol neu’n hwyrach fel oedolyn ifanc.
"Gall absenoldebau a gwaharddiadau fod yn ffordd ddefnyddiol o wybod pa blant y mae angen cymorth ychwanegol arnynt. Yn ogystal â lleihau trallod ac anawsterau uniongyrchol i'r person ifanc, gall ymyrryd yn gynnar hefyd eu rhoi ar drywydd mwy cadarnhaol a gwella canlyniadau yn ddiweddarach mewn bywyd."
Fel rhan o’r astudiaeth newydd, bu ymchwilwyr o Brifysgolion Abertawe, Caerdydd (Canolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc) a Chaergrawnt a GIG Cymru, yn archwilio'r cysylltiad rhwng presenoldeb (absenoldebau a gwaharddiadau) a niwroamrywiaeth, iechyd meddwl, a hunan-niweidio mewn carfan o 437,412 o ddisgyblion ysgol yng Nghymru rhwng saith ac 16 oed rhwng 2009 a 2013.
Mae'r papur yn tynnu sylw at y ffaith bod plant a phobl ifanc ag anhwylder niwroddatblygiadol neu anhwylder meddyliol, neu sy'n hunan-niweidio, ac sy’n cael diagnosis a gofnodir cyn eu bod yn 24 oed, lawer mwy tebygol o golli'r ysgol na'u cyfoedion.
Roedd absenoldeb o’r ysgol a chyfraddau gwahardd yn uwch ar ôl 11 oed ymhlith yr holl blant, ond yn fwy felly yn y rhai ag anhwylder ar eu cofnod. Canfu'r astudiaeth hefyd fod unigolion â mwy nag un anhwylder ar eu cofnod yn fwy tebygol o fod yn absennol neu o gael eu gwahardd, a bod hyn yn gwaethygu gyda phob anhwylder ychwanegol.
Mae llawer o ffyrdd y gallai anhwylderau niwroddatblygiadol, problemau iechyd meddwl a hunan-niweidio effeithio ar bresenoldeb. O ymddygiad aflonyddgar sy'n arwain at waharddiad neu symptomau somatig fel poen stumog a phen tost sy'n arwain at absenoldebau awdurdodedig, i symptomau sy'n gysylltiedig â gorbryder ac iselder sy'n arwain at wrthod mynd i’r ysgol, problemau teuluol, a phroblemau gyda’u cyfoedion fel bwlio.
Os bydd absenoldeb yn arwain at ynysu cymdeithasol a dirywiad o ran perfformiad academaidd, gallai hyn yn ei dro waethygu problemau iechyd meddwl a phresenoldeb.
Nododd yr astudiaeth hefyd wahaniaethau pwysig ymhlith y rhywiau. Ychwanegodd yr Athro John: “O fewn y poblogaethau â diagnosis, roedd merched ag anhwylderau niwroddatblygiadol, iselder a phroblemau camddefnyddio sylweddau yn fwy tebygol o fod yn absennol, ac roedd bechgyn yn fwy tebygol o gael eu gwahardd."
Fodd bynnag, dywedodd y tîm fod cael statws anghenion addysgol arbennig yn lleihau'r tebygolrwydd y bydd disgybl yn absennol neu'n cael ei wahardd, yn enwedig i'r rhai sydd ag anhwylderau niwroddatblygiadol ac anhwylder deubegynol ar eu cofnod, ac y gallai hyn fod yn arwydd o effaith gadarnhaol cydnabyddiaeth, diagnosis ac ymyriadau addysgol.
Dywedodd yr Athro John fod yr astudiaeth yn unigryw gan ei bod yn cysylltu data gofal iechyd sylfaenol ac eilaidd â data addysgol fel mater o drefn.
Ychwanegodd: “Mae diddordeb cynyddol mewn rhaglenni atal ac ymyrraeth gynnar mewn ysgolion sy'n canolbwyntio ar wella amgylchedd a diwylliant yr ysgol er mwyn lleihau problemau iechyd meddwl pobl ifanc. Mae ymyriadau eraill wedi cynnwys ymyriadau seicolegol sy'n canolbwyntio'n bennaf ar symptomau gorbryder ac iselder.
“Mae hyn yn fwy perthnasol wrth i blant ddychwelyd i'r ysgol ar ôl iddynt fod ar gau ac yn dilyn trefniadau dysgu cyfunol mewn ymateb i'r pandemig. Mae darpariaeth iechyd meddwl mewn ysgolion ac integreiddio â gwasanaethau iechyd meddwl wedi cael eu hamlygu fel blaenoriaeth strategol bwysig yn y DU.
“Gallai data ynghylch presenoldeb a gwaharddiadau, sydd eisoes yn cael ei gasglu gan ysgolion, gynnig gwybodaeth ddefnyddiol ynglŷn â lle i ganolbwyntio adnoddau cyfyngedig. Gall strategaethau atal problemau iechyd meddwl mewn ysgolion hefyd helpu i feithrin gwydnwch, gan alluogi disgyblion i ddatblygu strategaethau ar gyfer rheoli a gwella eu hiechyd meddwl a'u lles yn ogystal â deall pryd a sut i ofyn am gymorth ychwanegol.”
Y papur, Association of school absence and exclusion with recorded neurodevelopmental disorders, mental disorders or self-harm: a nationwide e-cohort study of children and young people in Wales, ar gael i'w weld ar-lein yn Seiciatreg Lancet.
Gwnaed y gwaith hwn gan Lwyfan Data Iechyd Meddwl y Glasoed, gan ddefnyddio technoleg TRE Platfform eResearch Diogel (SeRP), sydd wedi'i leoli ym maes Gwyddor Data Poblogaeth ym Mhrifysgol Abertawe, a ariennir gan MQ ac mae'n rhan o raglen waith ADR Cymru.