Diogelu’r Amazon o dan y gyfraith – academydd o Gaerdydd yn rhan o gydweithrediad byd-eang
19 Tachwedd 2021
Bydd grŵp o academyddion o bob cwr o'r byd yn dod at ei gilydd fis Tachwedd eleni mewn gweminar i drafod diogelu coedwig law yr Amazon a'r rôl hollbwysig y mae'n ei chwarae o ran atal newid yn yr hinsawdd.
Mae’r Darllenydd yn y Gyfraith yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, Dr Ricardo Pereira, yn un o'r grŵp a gydweithiodd yn gynharach eleni ar Rifyn Arbennig o'r cyfnodolyn Review of European, Comparative and International Environmental Law (RECIEL) sy'n canolbwyntio ar Goedwig Law yr Amazon. Golygodd Dr Pereira y Rhifyn Arbennig gyda Dr Beatriz Garcia o Brifysgol Gorllewin Sydney.
Wedi'i gyhoeddi ym mis Gorffennaf 2021, gwerthusodd y Rhifyn Arbennig lwybrau cyfreithiol a allai gyfrannu at ddiogelu'r Amazon yn erbyn cefndir o gyfraddau datgoedwigo cynyddol, tanau coedwig, colledion bioamrywiaeth a chyd-destunau gwleidyddol anffafriol yn rhai o wledydd yr Amazon.
Mae'r mater yn taflu goleuni ar sut y gall ymgyfreitha domestig a rhyngwladol, cyfraith amgylcheddol genedlaethol a rhyngwladol a hawliau dynol, yn ogystal â mentrau yn y sector preifat a'r farchnad, gyfrannu at ddiogelu'r Amazon. Mae hefyd yn tynnu sylw at yr heriau sy'n gysylltiedig â chydweithredu rhanbarthol a rhyngwladol a llywodraethu coedwigoedd yn ehangach.
I nodi cyhoeddiad y Rhifyn Arbennig, mae'r cyfranwyr nawr yn cymryd rhan mewn gweithdy, The Legal Protection of the Amazon: Current and Future Trends ar 25 Tachwedd 2021, a fydd hefyd yn cynnwys anerchiadau agoriadol gan arbenigwyr nodedig yn y meysydd cyfraith amgylcheddol ryngwladol, polisi a gwyddoniaeth. Mae tanau’r Amazon yn 2019 a 2020 wedi rhoi mwy o sylw i'r rhanbarth a rhoi lle blaenllaw i gadwraeth yr Amazon mewn trafodaeth ryngwladol. Mae rôl hanfodol coedwigoedd cynradd, megis yr Amazon, o ran atal colledion bioamrywiaeth trychinebus a newid yn yr hinsawdd yn cael ei chydnabod i raddau helaeth mewn llenyddiaeth wyddonol a fforymau polisi. Bydd y gweithdy hefyd yn gyfle i werthuso canlyniadau COP-26 yn Glasgow sy'n berthnasol i goedwigoedd a chadwraeth bioamrywiaeth.
Mae dolenni ymuno a gwybodaeth bellach gan gynnwys y rhaglen lawn ar gyfer y weminar ar gael ar wefan Prifysgol Griffith. Trefnir y digwyddiad gan Ysgol y Gyfraith Prifysgol Gorllewin Sydney mewn cydweithrediad â phrosiect Coedwigoedd Cynradd Trofannol a Newid Hinsawdd Prifysgol Griffith, Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Prifysgol Caerdydd a Chanolfan Sabin ar gyfer Cyfraith Newid yn yr Hinsawdd yn Ysgol y Gyfraith Columbia.