Gitarydd roc eiconig yn rhannu ei brofiad o ddysgu Japaneeg
19 Tachwedd 2021
Ym mis Hydref eleni, croesawodd yr Ysgol Ieithoedd Modern siaradwr gwirioneddol ysbrydoledig – Marty Friedman.
Mae Mr Friedman yn adnabyddus am arwain y band metel trwm Megadeth i uchafbwynt eu llwyddiant o 1990 – 2000, yn ogystal â'i 15 albwm unigol. Mae hefyd yn Japanoffeil bona fide sydd wedi bod yn byw yn Tokyo ers 2003 ac mae ar y teledu yn Japan yn aml.
Siaradodd Mr Friedman â'r gynulleidfa gref o 120 am ei gariad at gerddoriaeth Japan, ei gymhelliant i astudio Japaneeg, ei ddulliau dysgu unigryw a rhoddodd gyngor diddorol ar sut i ddysgu Japaneeg yn effeithiol. Fe soniodd hefyd am sut y rhoddodd ei feistrolaeth ar Japaneeg lawer o gyfleoedd iddo yn ei yrfa broffesiynol. Ers symud i Japan mae Mr Friedman wedi rhyddhau 10 albwm unigol ac wedi perfformio yn Budokan, Tokyo Dome a phob lleoliad cerddoriaeth mawr arall yn Japan.
Mae Mr Friedman hefyd yn amlwg yn y cyfryngau Japan drwy gerddoriaeth, amrywiaeth, comedi, gwleidyddiaeth ac addysg.
Ariannwyd y digwyddiad, a gynhaliwyd dros Zoom ar 20 Hydref 2021, gan Sefydliad Japan ac roedd yn rhan o Gyfres Darlithoedd Japaneaidd Caerdydd. Mae'r gyfres yn archwilio agweddau cymdeithasegol ar ddysgu iaith ac mae wedi'i hanelu at fyfyrwyr sy'n astudio iaith a diwylliant Japan ond gall dysgwyr y tu hwnt i Brifysgol Caerdydd, athrawon ac ymchwilwyr sydd â diddordeb yn Japan hefyd gael mynediad atynt.
Wrth siarad am y digwyddiad, dywedodd Mayu Negami-Handford, Darlithydd mewn Astudiaethau Japaneaidd, "Roedd mor ysbrydoledig gwrando ar Mr Fieldman yn siarad am ei gariad at Japan a'r iaith. Mae wedi croesawu pob agwedd ar ddiwylliant Japan. Roedd yn bwnc hynod ddiddorol."
Cafodd gweminar Mr Friedman ei recordio a gellir ei gwylio ar sianel YouTube yr Ysgol.