Tîm o Brifysgol Caerdydd i ymchwilio i ansawdd yr aer mewn ysgolion cynradd
18 Tachwedd 2021
Mae tîm o Brifysgol Caerdydd sy’n cynnwys Dr Gabriela Zapata-Lancaster (ARCHI), Dr Thomas Smith (GEOPLAN) a Miltiadis Ionas (ARCHI), mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, yn cydweithio â dwy ysgol gynradd i ymchwilio i ddull addas o fonitro a gwerthuso amgylchedd ystafelloedd dosbarth.
Bydd y prosiect yn ymchwilio i ffyrdd o fonitro data er mwyn creu adnoddau addysgol i gefnogi dysgu plant sy’n ymwneud â’r amodau y tu mewn i adeiladau ac, yn fwy cyffredinol, y defnydd o adeiladau/perfformiad ynni adeiladau a chynaliadwyedd. Bydd yr agweddau hyn yn cael sylw mewn gweithdai yn yr ysgolion sy’n cymryd rhan er mwyn cysylltu gwaith monitro data â sgiliau llythrennedd a rhifedd, addysg STEM a gweithgareddau eco-ysgolion. Bydd y tîm o Brifysgol Caerdydd hefyd yn archwilio amgylchedd y disgyblion a’r athrawon yn adeiladau’r ysgol a’r hyn y mae’r ysgol yn ei wneud i reoli’r amgylchedd hwn.
Bydd y tîm o Brifysgol Caerdydd hefyd yn trefnu digwyddiadau ar-lein i drafod y prosiect ag ysgolion eraill a phartïon sydd â diddordeb mewn addysg sy’n ymwneud â pherfformiad ynni adeiladau a chynaliadwyedd
Dywedodd Dr Zapata-Lancaster: "Mae ein tîm yn ceisio cynnig cyngor ar nodi dulliau a fydd yn helpu ysgolion a chynghorau i ddeall yr amgylchedd mewnol. Gallai hyn, yn y tymor hir, lywio ymyriadau sy’n seiliedig ar ymddygiad i gynnal amodau da dan do. Nod y prosiect hefyd yw cyd-ddatblygu adnoddau dysgu ar gyfer plant er mwyn iddynt allu cymryd rhan mewn gweithgareddau STEM sy’n canolbwyntio ar berfformiad ynni adeiladu a chynaliadwyedd drwy ddefnyddio eu hysgol eu hunain fel labordy byw.”
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y prosiect, neu os hoffech gymryd rhan mewn digwyddiadau yn y dyfodol, cysylltwch â Dr Gabriela Zapata-Lancaster drwy ebostio ZapataG@caerdydd.ac.uk.