Astudiaeth newydd ar ADHD mewn oedolion ag iselder rheolaidd
6 Ionawr 2022
Mae ymchwilwyr o Ganolfan Iechyd Meddwl Pobl Ifanc Wolfson wedi gwneud gwaith i ymchwilio i amlder ac effaith anhwylder diffyg sylw/gorfywiogrwydd (ADHD) mewn menywod sy'n oedolion ag iselder rheolaidd.
Canfu'r astudiaeth, dan arweiniad Dr Victoria Powell, fod gan 12.8% o fenywod â hanes o iselder rheolaidd symptomau ADHD uwch hefyd. Yn ogystal, roedd canran fach o'r menywod a samplwyd yn bodloni'r meini prawf diagnostig ar gyfer ADHD, ond nid oedd yr un o'r menywod wedi cael diagnosis o ADHD gan weithiwr meddygol proffesiynol.
Dywedodd Dr Powell: "Mewn sampl o fenywod canol oed o garfan arfaethedig o oedolion yn y DU â hanes o iselder rheolaidd, buom yn ymchwilio amlder ADHD a chysylltiad ADHD gyda nodweddion clinigol iselder.
"Gall y rhai sydd ag anhwylder diffyg sylw/gorfywiogrwydd fod mewn perygl o iselder mwy cronig a niweidiol o gymharu â'r rhai ag iselder yn unig yn ôl astudiaethau ar bobl ifanc. Fodd bynnag does dim astudiaethau hyd yma wedi archwilio ADHD mewn oedolion canol oed ag iselder rheolaidd."
Canfu'r astudiaeth fod ADHD yn gysylltiedig ag iselder cynharach, mwy niweidiol, rheolaidd a bod menywod ag iselder rheolaidd a symptomau ADHD uwch yn fwy tebygol o fod yn yr ysbyty na rhai hebddynt. Canfu'r astudiaeth hefyd fod ADHD yn gysylltiedig â bod ar gyffur gwrth-iselder nad yw'n ddewis cyntaf nodweddiadol, sy'n awgrymu y gallai clinigwyr fod wedi cael anhawster dod o hyd i feddyginiaeth gwrth-iselder effeithiol i'r menywod hyn.
Casgliad Dr Powell oedd: "Fe wyddom y gall pobl ag ADHD fod â risg uwch o ddatblygu iselder hir a niweidiol. Yr astudiaeth hon yw'r gyntaf o'i math, a does dim astudiaethau hyd yma wedi archwilio ADHD a'i effaith ar gyflwyniad iselder mewn oedolion canol oed sydd ag iselder rheolaidd. Mae'r canfyddiadau'n awgrymu efallai fod iselder rheolaidd yn gallu cuddio symptomau ADHD mewn menywod mewn rhai achosion.
"Gobeithio y bydd y canfyddiadau hyn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol mewn lleoliadau clinigol, yn enwedig i fenywod ag iselder rheolaidd a allai fod yn cuddio ADHD sylfaenol nad yw wedi'i ganfod. Rwy'n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda chydweithwyr yma yng Nghanolfan Wolfson i gynnal astudiaethau pellach fydd â goblygiadau yn y byd real ac yn gwneud gwahaniaeth ym maes ymchwil iechyd meddwl."
Cyhoeddir y papur ymchwil, ADHD in adults with recurrent depression, yn y Journal of Affective Disorders ac mae ar gael i'w ddarllen ar-lein.