Cymrawd newydd Academi’r Gwyddorau Cymdeithasol
15 Tachwedd 2021
![Feet silhouetted on glass steps above](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0003/2584722/iStock-161845085-Cropped.jpg?w=570&h=321&fit=crop&q=60&auto=format)
Mae'r Athro Emmanuel Ogbonna, Athro Rheolaeth a Threfniadaeth wedi cael Cymrodoriaeth Academi'r Gwyddorau Cymdeithasol (FAcSS).
Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys meysydd astudiaethau sefydliadau, strategaethau, marchnata a rheoli adnoddau dynol. Mae ei ddiddordebau ymchwil diweddar wedi bod ym meysydd diwylliant, cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant sefydliadol, ac mae ei waith wedi archwilio sefyllfa cymunedau du a lleiafrifoedd ethnig yn y farchnad lafur.
Cydnabyddir Cymrodyr Newydd am ragoriaeth ac effaith eu gwaith a'u cyfraniadau ehangach at y gwyddorau cymdeithasol er budd y cyhoedd. Enwebwyd yr Athro Ogbonna am y wobr gan Gymdeithas Ddysgedig arall, Academi Rheolaeth Prydain, y mae hefyd yn Gymrawd ohoni.
Mae Cymrodoriaeth yr Academi yn cynnwys unigolion nodedig o'r sectorau academaidd, cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector, ar draws y gwyddorau cymdeithasol.
Yn gynharach eleni, croesawyd yr Athro Ogbonna i Gymrodoriaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru, gan ymuno ag academyddion sy'n chwarae rhan bwysig ym mywyd cyhoeddus Cymru.
![](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0005/1559894/ogbonna_e.jpg?w=100&h=100&auto=format&crop=faces&fit=crop)
Rwy’n falch iawn ac mae’n anrhydedd cael fy nghydnabod gan yr Academi fel hyn. Rwy’n arbennig o falch bod y wobr yn cydnabod nid yn unig y cyfraniadau rydw i wedi’u gwneud at ymchwil reoli ond hefyd fy ngwaith yn cyd-gadeirio Grŵp Llywio Llywodraeth Cymru sy’n arwain datblygiad Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol: Cymru Wrth-hiliol.
Dywedodd Will Hutton, Llywydd Academi'r Gwyddorau Cymdeithasol: “Wrth i’r Academi ymestyn ei ffocws allanol, mae ymgysylltu â phob sector o’r gymuned gwyddorau cymdeithasol yn hanfodol bwysig ac rwy’n mawr obeithio tynnu ar wybodaeth ac arbenigedd ein Cymrodyr newydd.”