Gallai tarfu ar glociau corff pysgod fod yn ddrwg i'w hiechyd
16 Tachwedd 2021
Gallai canfyddiadau astudiaeth newydd, wedi’i chyd-arwain gan yr Athro Jo Cable, fod â goblygiadau i'r diwydiant ffermio pysgod
Mae ymchwil newydd yn dangos bod clociau corff brithyllod seithliw yn llywio rhythmau dyddiol eu system imiwnedd a'r microorganebau sy'n byw ar eu croen. Mae cadw pysgod o dan olau cyson – dull a ddefnyddir yn aml gan ffermydd pysgod i wella twf neu reoli atgenhedlu – yn amharu ar y rhythmau dyddiol hyn ac yn eu gwneud yn fwy agored i barasitiaid.
Mae’r astudiaeth, a gyhoeddwyd yng nghyfnodolyn Microbiome ac a gynhaliwyd gan ymchwilwyr ym Mhrifysgolion Caerdydd, Bangor ac Aberystwyth, yn dangos pa mor bwysig yw deall "cronofioleg" anifeiliaid er mwyn eu cadw’n iach.
Dywedodd un o’r cyd-awduron, yr Athro Jo Cable, Deiliad Cadair mewn Parasitoleg a Phennaeth yr Is-adran Organebau a'r Amgylchedd:
"Dyma'r astudiaeth gyntaf i edrych ar rythmau dyddiol microbiomau pysgod. Mae diddordeb cynyddol yn y diwydiant dyframaeth mewn cynnal microbiomau 'iach' mewn pysgod a ffermir er mwyn gwella eu gallu i wrthsefyll clefydau. Fodd bynnag, gallai’r arferion ffermio presennol arwain at ganlyniadau anfwriadol o ran iechyd y pysgod."
Fel yr esbonia'r prif awdur Dr Amy Ellison, darlithydd yn Ysgol Gwyddorau Naturiol Prifysgol Bangor:
"Mae gan frithyllod seithliw rythmau dyddiol neu 'circadaidd' yn eu gweithgarwch imiwnedd, ac yn ôl pob golwg mae’r rhythmau hyn yn newid cyfansoddiad y cymunedau microbaidd sy'n byw ar eu croen wrth symud rhwng dydd a nos. Y 'microbiomau' hyn ar groen pysgod yw’r amddiffyniad cyntaf yn erbyn parasitiaid a phathogenau goresgynnol, felly gallai hyn fod yn bwysig iawn i'w hiechyd."
"Gwelsom fod magu pysgod o dan olau parhaus wedi cael effaith ddifrifol ar amseriad eu system imiwnedd a'u microbiomau. Yr hyn sy’n destun pryder yw bod pysgod o dan olau cyson a heintiwyd â llau croen parasitaidd yn llai llwyddiannus o ran cael gwared ar eu haint."
Mae llau croen yn broblem eang mewn dyframaeth. Dangosodd yr ymchwil hefyd fod heintiau llau yn arwain at newid sylweddol mewn cymunedau microbaidd ar groen brithyll, gan gynyddu nifer y bacteria pathogenig.
Ychwanegodd un o’r cyd-awduron, Dr David Wilcockson o Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth:
"Mae cronotherapïau, sef rhoi brechlynnau a thriniaethau eraill ar amser priodol yn ystod y dydd, yn dechrau chwyldroi meddygaeth ddynol. Ond nid yw hyn wedi cael ei ddefnyddio eto gydag anifeiliaid sy’n cael eu ffermio. Mae ein hastudiaeth yn codi'r posibilrwydd y gellid defnyddio dulliau tebyg i helpu i gynnal iechyd a lles pysgod mewn ffermydd."
Mae'r astudiaeth yn rhan o brosiect a ariennir gan gymrodoriaeth Discovery BBSRC i ymchwilio i gronofioleg pysgod, eu parasitiaid, a'u microbiomau.