Gwobr am Gasgliad Golygedig Eithriadol i Academydd o'r Ysgol Cerddoriaeth
15 Tachwedd 2021
Mae Carmen Abroad gan Dr Clair Rowden wedi ennill Gwobr Llyfr 2021 y Gymdeithas Gerddoriaeth Frenhinol (RMA) / Gwasg Prifysgol Caergrawnt am Gasgliad Golygedig Eithriadol.
Daeth y llyfr, a gyd-olygwyd gyda'r Athro Richard Langham Smith (Y Coleg Cerdd Brenhinol), hefyd i'r brig ar restr cylchgrawn cerddoriaeth glasurol y BBC o'r 'llyfrau gorau am gerddoriaeth glasurol i’w cyhoeddi yn 2021 hyd yma'. Mae'n trafod perfformiadau o Carmen gan Bizet o'r dechrau yn 1875 hyd at gyfieithiadau, addasiadau a chydfeddiannau diweddarach ar draws y byd tan 1945.
Mae Carmen Abroad yn canolbwyntio ar yr opera a dylanwad amrywiol lensys diwylliannol ac felly safbwyntiau gwleidyddol yn ogystal â'r sbectrwm o ddehongliadau artistig sy'n debygol o fod wedi'u llywio gan y cyd-destunau hyn. Ceir dadansoddiad hefyd o bwysigrwydd diwylliannol yr opera yn Rwsia Sofietaidd, yn Japan yn y cyfnod Gorllewino, yn Sbaen ac yn ne Ffrainc ranbarthol.
Ceir gwefan i gyd-fynd â'r llyfr yn cynnwys cofnod o'r perfformiadau ar draws y byd rhwng 1875 a 1945 yn ogystal â map a llinell amser rhyngweithiol sy'n dangos nid yn unig y gwledydd ond y dinasoedd ac union leoliad pob perfformiad.