Mae tynnu damcaniaethwyr cynllwyn Covid oddi ar Facebook yn cael effaith gyfyngedig o ran lleihau eu dylanwad, yn ôl ymchwil
15 Tachwedd 2021
Mae tynnu damcaniaethwyr cynllwyn Covid proffil uchel oddi ar Facebook ond wedi cael effaith gyfyngedig ar ledaeniad gwybodaeth gamarweiniol, yn ôl ymchwil gan Brifysgol Caerdydd.
Mae tudalennau cefnogwyr, grwpiau cysylltiedig a chyfrifon eilradd eraill a grëwyd gan gredinwyr selog yn parhau i rannu cynnwys problemus am achosion a chanlyniadau Covid-19 ymhell ar ôl i’r prif gyfrifon gael eu tynnu ymaith, yn ôl y canfyddiadau.
Yn ôl tîm Sefydliad Ymchwil Trosedd a Diogelwch Prifysgol Caerdydd (CSRI), mae’r cyfrifon hyn gan gefnogwyr llai pwysig hefyd yn cynyddu gwytnwch cynllwynwyr drwy eu hannog i arallgyfeirio eu presenoldeb ar draws rhwydwaith amgen o blatfformau, gwefannau personol a gwasanaethau tanysgrifio.
Mae'r astudiaeth, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn a adolygir gan gymheiriaid Information, Communication and Society, yn trin a thrafod y broses o ddad-lwyfannu tudalennau David Icke a Kate Shemirani oddi ar Facebook oherwydd eu bod wedi torri ei bolisïau ar dwyllwybodaeth niweidiol yn ystod y pandemig, a hynny dro ar ôl tro, a’r ffordd yr ymatebodd dilynwyr yr unigolion hyn i'r ymyriadau i gyfyngu ar eu heffeithiolrwydd cyffredinol.
Dyma a ddywedodd y prif awdur Dr Helen Innes, Cymrawd Ymchwil yn yr CSRI: “Mae ein hymchwil yn dangos sut y gall dad-lwyfannu weithiau atgyfnerthu’r gefnogaeth a gaiff cynllwynwyr carismatig megis Icke a Shemirani ymhlith eu dilynwyr. Mae eu tynnu oddi ar Facebook, Twitter a YouTube yn gyfystyr â braint ac anrhydedd ac yn dystiolaeth bod eu gweithredoedd wedi bod yn ddigon o destun pryder i gwmnïau technoleg mawr i beri iddyn nhw weithredu yn eu herbyn.
“Pan fydd hyn yn digwydd, mae ein data'n dangos sut mae eu dilynwyr yn paratoi adnoddau drwy greu tudalennau newydd gan gefnogwyr, grwpiau cyhoeddus a phreifat, rhannu dolenni a fideos, a gosod heriau yn y cyfryngau cymdeithasol er mwyn parhau â chenhadaeth sy’n destun sensoriaeth yn eu barn nhw.
“Yn y cyd-destun hwn, prin yw'r llwyddiant a gaiff dad-lwyfannu o ran tarfu ar yr ymddygiad niweidiol a'i atal. Yn hytrach, i lawer mae'n atgyfnerthu eu credoau cynllwyngar, gan fod yr hyn a elwir yn 'gyfrifon gan gefnogwyr llai pwysig' yn mynd ati i ledaenu'r deunydd sy’n rhoi twyllwybodaeth ar ran y sawl sydd wedi cael eu dad-lwyfannu.”
Yn ystod y pedair wythnos ar ôl dad-lwyfannu Icke, sy’n ddamcaniaethwr cynllwyn hirsefydlog, dadansoddodd ymchwilwyr 11,877 o bostiadau cyhoeddus a soniodd amdano. Arweiniodd y postiadau hyn hyn at 2.2 miliwn o achosion o ryngweithio â defnyddwyr. Yn ystod y saith diwrnod ar ôl i'w gyfrif gael ei dynnu ar 30 Ebrill, cynyddodd y sôn amdano yn gyhoeddus ar Facebook 84%.
Dadansoddodd y tîm 1,636 o bostiadau a soniodd am Kate Shemirani yn ystod 2020. Tyfodd amlygrwydd ei phroffil yn ystod y pandemig cyn iddi gael ei dad-lwyfannu ar 4 Medi 2020.
Yn ystod y ddau fis ar ôl iddi gael ei thynnu oddi ar Facebook, gostyngodd y sôn amdani mewn postiadau yn ogystal â’r graddau yr oedd defnyddwyr Facebook yn ei thrafod yn sylweddol. Fodd bynnag, roedd yn ymddangos mai dros dro oedd y gwaith o atal y dwyllwybodaeth, gan fod arwyddion ei bod ar gynnydd o ddiwedd 2020 pan gynyddodd nifer y adegau o rannu fideo ar Facebook o tua deg ym mis Hydref a mis Tachwedd 2020 i fwy na 60 yn ystod y ddau fis nesaf.
Cynyddodd mesurau Facebook i atal gwybodaeth gamarweiniol yn 2020 mewn ymateb i'r pandemig a chyn yr etholiad yn yr Unol Daleithiau. Cafodd cyfrifon eu dad-lwyfannu, sef cosb derfynol Facebook. Dyma’r hyn sy’n digwydd i gyfrifon yr asesir eu bod yn peryglu diogelwch y cyhoedd, yn unol â’i Bolisi ar Unigolion a Sefydliadau Peryglus.
Yn y flwyddyn hyd at fis Medi 2020, tynnodd Facebook fwy na 1 miliwn o grwpiau oddi ar y platfform oherwydd eu bod wedi torri’r rheolau dro ar ôl tro, gan roi gwrthfesurau newydd ar waith gyda’r bwriad o atal gweinyddwyr y grwpiau hynny rhag creu rhai newydd.
Dyma a ddywedodd y cyd-awdur, yr Athro Martin Innes, Cyfarwyddwr y CSRI: “Nid oes fawr o amheuaeth, er gwaethaf ymdrechion Facebook i fynd i'r afael â lledaeniad camwybodaeth niweidiol, fod angen camau mwy effeithiol gan gwmnïau technoleg mawr er mwyn mynd i'r afael â'r llu o ddamcaniaethau cynllwyn yr ydym wedi'u gweld yn ystod y pandemig.
“Os gall dad-lwyfannu, fel yr awgryma ein hastudiaeth, gael effeithiau cymhleth o ran cyfyngu ar y graddau y bydd cynnwys niweidiol yn cyrraedd y cyhoedd, tra'n ysgogi mwy o wytnwch ymhlith y grwpiau hyn ar yr un pryd, yna bydd angen cyflwyno rhagor o fesurau i sicrhau na fydd gwybodaeth gamarweiniol yn cael ffynnu ar-lein.”
Darllenwch y papur: 'De-platforming Disinformation: conspiracy theories and their control'.