Ewch i’r prif gynnwys

Enwi'r Darlithydd Ffisiotherapi Siân Knott yn Brif Ffisiotherapydd Tîm Prydain Fawr ar gyfer Beijing 2022

12 Tachwedd 2021

Sian Knott

Dewiswyd y darlithydd Siân Knott o Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Caerdydd yn brif ffisiotherapydd ar gyfer Tîm Prydain Fawr yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf Beijing 2022.

Dywedodd Siân ei bod 'wrth ei bodd ac ar ben ei digon' i gael ei dewis. Dywedodd Pennaeth yr Ysgol, David Whitaker: 'Mae penodiad Sian yn Brif Ffisiotherapydd ar gyfer Gemau Beijing 2022 yn newyddion gwych i Brifysgol Caerdydd a dyma'r diweddaraf mewn cyfres hir o benodiadau pwysig i ddigwyddiadau tîm Prydain Fawr. Llongyfarchiadau Siân, rydyn ni'n falch ohonot ti!'

Mae gan Siân brofiad sylweddol ar ôl cymryd rhan gyda Thîm Cymru yng ngemau'r Gymanwlad yn ogystal â chefnogi yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf 2014 yn Sochi. Fodd bynnag, wrth i bandemig COVID-19 barhau, mae Siân yn ymwybodol y bydd y gemau hyn fwy na thebyg yn wahanol iawn i unrhyw beth mae wedi'i brofi o'r blaen: 'Rwy'n llawn cyffro i gael cynnig y cyfle hwn ond rwy'n disgwyl y bydd yn heriol oherwydd cymhlethdodau ychwanegol pandemig covid.'

Gan nad yw'r athletwyr wedi'u dewis yn swyddogol eto ar gyfer Tîm Prydain Fawr gyda'r prosesau cymhwyso ac enwebu ar waith, mae Siân yn disgrifio sut y caiff ffisiotherapyddion eu recriwtio a hefyd gyfarfodydd yr uwch dîm rheoli bob pythefnos.

'Mae cyfarfodydd yr uwch dîm rheoli'n trafod pob agwedd ar baratoadau'r gemau o logisteg i ffrindiau / teulu, y cyfryngau, covid ac ati. Rydyn ni wedi bod yn trafod senarios 'beth os' a chynllunio ar eu cyfer yn ogystal â sicrhau bod gennym ni weithdrefnau safonol priodol ar waith fydd yn galluogi'r athletwyr i berfformio.'

Mae'n debygol y bydd gan Dîm Prydain Fawr tua 60 o athletwyr yn cymryd rhan yn y gemau. Dywed Sian: 'Anhawster y gemau yw eu bod wedi'u rhannu ar draws tri safle, un yn ninas Beijing (chwaraeon iâ e.e. sglefrio cyflym, sglefrio ffigurau, cwrlo), un yn y mynyddoedd (chwaraeon eira) ac un ganolfan newydd sbon ar gyfer y chwaraeon gwthio/llithro (luge, sgerbwd ac ati) sydd hanner ffordd rhwng lleoliadau'r mynydd a'r ddinas.'

Gyda'r strwythur wasgaredig hon, mae Sian yn egluro sut y bydd angen canolfan i'r ffisiotherapyddion ar bob safle ac felly y caiff tri phencadlys eu sefydlu: 'Bydd rhaid cael o leiaf un meddyg ac un ffisiotherapydd ym mhob clwstwr yn ogystal â ffisiotherapyddion campau penodol fydd yn teithio gyda rhai campau.'

Dywed Sian: 'Mae gennym ni dîm gwych o staff yn mynd i Beijing ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda nhw i gyd i gefnogi'r athletwyr yn y ffordd orau y gallwn ni.'

Rhannu’r stori hon