Bydd Prifysgol Caerdydd yn lleihau effaith amgylcheddol pob cwrs maes daearyddiaeth a geowyddoniaeth
15 Tachwedd 2021
Mae ysgolion yn cytuno i egwyddorion newydd a amlinellir gan gorff proffesiynol y DU ar gyfer daearyddiaeth er mwyn lleihau ôl troed carbon pob rhaglen gwaith maes israddedig.
Yn sgil COP26, mae Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd a'r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio wedi cytuno i'r Egwyddorion ar gyfer Cyrsiau Maes Israddedig, gan ddangos ymrwymiad i ddarparu gwaith maes cynaliadwy o ansawdd uchel ar gyfer cenedlaethau o fyfyrwyr israddedig ym Mhrifysgol Caerdydd yn y dyfodol.
Mae'r egwyddorion newydd, a ddatblygwyd gan y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol mewn cydweithrediad â Chyngor Penaethiaid Daearyddiaeth Sefydliadau Addysg Uwch y DU, yn ystyried amrywiaeth o faterion sy'n ymwneud â chyrsiau maes israddedig a addysgir. Mae'r rhain yn cynnwys cynaliadwyedd ac ôl troed carbon teithio, hygyrchedd, cynwysoldeb a chyfle cyfartal, a materion yn ymwneud â gwaith maes ac iechyd meddwl.
Bydd Ysgolion Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd a Daearyddiaeth a Chynllunio yn cydweithio i gynnal ymarferion monitro blynyddol a chyfrifyddu carbon i ystyried sut i wella'n gadarnhaol y gwaith maes sy'n cael ei gynnig ar draws yr holl raglenni daearyddiaeth a geowyddoniaeth. Bydd yr Ysgolion yn parhau i ddefnyddio dull tryloyw o wneud penderfyniadau gydag ymrwymiad i wella'n amlwg dros amser.
Mae Prifysgol Caerdydd yn rhan o gymuned gynyddol o brifysgolion, grwpiau diddordeb arbennig, busnesau, ac eraill sy'n gweithio gyda'i gilydd i fynd i'r afael â'r argyfwng newid yn yr hinsawdd. Dysgwch sut rydym yn mynd i'r afael â'n hôl troed carbon fel sefydliad.