Mae pob bywyd yn cyfrif: Tystio i'r Holocost yn ne Cymru
11 Tachwedd 2021
Ymchwil llechen goffa Synagog Caerdydd yn taflu goleuni ar 100 o ddioddefwyr Iddewig sy'n gysylltiedig â phrifddinas Cymru
Caiff bywydau dros 100 o bobl â chysylltiadau â Chaerdydd a fu farw yn yr Holocost eu cofio diolch i waith gofalus gwirfoddolwyr Llechen Goffa'r Holocost.
Ysbrydolwyd yr ymchwil, sy'n rhan o’r prosiect Fframio Hanes Iddewig, gan lechen goffa yn Synagog Diwygio Caerdydd, a godwyd yn wreiddiol gyda 54 o enwau yn 1954 ac a adnewyddwyd yn ddiweddarach gan ychwanegu 48 enw arall yn 1999.
Roedd pob un o'r 102 enw ar y llechen bren, yn ddynion, menywod a phlant, yn perthyn i aelodau o gynulleidfa Caerdydd. Bu farw pob un yn yr Holocost.
Esboniodd Klavdija Erzen, fu'n rheoli'r prosiect ar ran Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (JHASW/CHIDC):
"Mae llawer o noddwyr gwreiddiol y Llechen Goffa bellach wedi marw neu symud o Gaerdydd ac ychydig oedd yn wybyddus am lawer o'r bobl a restrwyd. Nid enwau yn unig yw'r rhain; maen nhw'n famau a thadau, meibion a merched, brodyr a chwiorydd. Mae eu bywydau'n haeddu cael eu cofio, fel y mae eu marwolaeth yn cael ei gofio."
Dechreuodd y gymdeithas y fenter i ymchwilio i bob enw a nodi cofnod parhaol i bob bywyd yn 2019, fel y nodwyd yn ei ffilm goffa i'r Holocost yn 2021.
Bu'r tîm o wirfoddolwyr yn ymchwilio pob enw, gan ddatgelu naratif i'r mwyafrif o'r rhai ar y rhestr drwy ymchwil ar draws Ewrop a thu hwnt. Fe roddodd dau fyfyriwr o'r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd bron 200 awr o’u hamser i'r prosiect, gan gyfrannu at yr ymchwil gymhleth sydd ei hangen i adrodd stori pob person.
Un cwpl o'r fath yw Otto a Grete Bondy, a briododd ac a fu'n byw yn Fienna. Yn dilyn yr Anschluss a gorfodi eu busnes i ddwylo Ariaidd, llwyddodd y cwpl Iddewig i ffoi i Wlad Belg gan gymryd llwybrau gwahanol gyda'u plant ifanc Liese a Walter. Yng Ngwlad Belg, cafodd Otto a brawd Grete eu harestio ond llwyddon nhw i ffoi o wersyll caethiwo yn Ffrainc a dychwelyd at eu teuluoedd. Ond ni ddaliodd eu lwc, er gwaethaf cyfnodau o gael eu cuddio gan fam un o ffrindiau Walter. Arestiodd y Gestapo Otto a Grete yn eu cartref yn 1943. Doedd Liese a Walter ddim gartref a llwyddon nhw i osgoi cael eu dal, gan barhau ynghudd.
Trodd taith drên bedair awr i'r Iseldiroedd yn 1,200km. Ar hyd y ffordd, llwyddon nhw i daflu cardiau post o'r trên i dawelu meddwl eu teuluoedd a gwarchod cuddfan eu plant.
Ddeuddydd yn ddiweddarach, cyrhaeddon nhw eu cyrchfan olaf, Auschwitz-Birkenau. O'r 1,425 o Iddewon - dynion, menywod a phlant - ar y trên, llofruddiwyd 875 yn y siambrau nwy wrth iddyn nhw gyrraedd ac anfonwyd 550 i wneud llafur gorfodol. Dim ond 31 unigolyn o Drafnidiaeth XX11 A & B a lwyddodd i oroesi'r rhyfel. Does dim cofnod bod Otto a Grete wedi goroesi ar ôl cyrraedd.
Goroesodd chwaer Grete yr Holocost a symudodd i Gaerdydd ar ôl y rhyfel a chwarae rhan amlwg yn y synagog Diwygio. Fe fagodd deulu hefyd yn ogystal â mabwysiadu merch Grete a lwyddodd i oroesi drwy guddio mewn lleiandy.
Mae fersiwn lawn y stori hon, a ysgrifennwyd gan Gymdeithas Hanes Iddewig De Cymru, ar gael ar-lein.
Dywedodd y darlithydd mewn Hanes Iddewig Modern yn yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd, Dr Jaclyn Granick:
"Mae'r prosiect yn gadael i ni gofio hanes Caerdydd fel lloches oddi wrth hil-laddiad, ond sydd hefyd â chysylltiadau cymhleth â'r hil-laddiad ei hun. Profodd Iddewon Caerdydd drawma yn sgil yr Holocost, fel y tystia'r llechen goffa hon.
Daw'r ymchwil fanwl hon â'r golled breifat, enfawr, hon i sylw'r cyhoedd o'r diwedd, gan ddangos nad rhywbeth a ddigwyddodd 'draw fanna' yn unig oedd yr Holocost, ond ei fod wedi effeithio ar bobl Caerdydd yn bersonol, a newid hanes Caerdydd ei hun."
Gellir olrhain naratifau pawb yr ymchwiliwyd i'w hanes ar wefan y Llechen Goffa a lansiwyd ar 9 Tachwedd, yr un dyddiad â chyfres o bogromau yn 1938 yn erbyn yr Iddewon yn nhiriogaeth yr Almaen a adwaenir fel Kristallnacht.
Cyllidwyd y prosiect Fframio Hanes Iddewig gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, Cymdeithas Hanes Iddewig Lloegr, Prifysgol Caerdydd a'r Cyngor Coffa Iddewig.
Sefydlwyd Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru yn 2018, a’i nod yw datgelu, dogfennu, cadw, a rhannu treftadaeth ddiwylliannol diriaethol ac anniriaethol cymunedau Iddewig de Cymru.
Mae Dr Jaclyn Granick yn gweithio ar y croestoriad rhwng hanes Iddewig modern a hanes rhyngwladol, yn enwedig diwedd y 19eg a'r 20fed ganrif, gyda ffocws penodol ar wleidyddiaeth, dyngarwch, dyneiddiaeth a rhywedd ar draws y Diaspora Iddewig.