Ewch i’r prif gynnwys

Gwobr BAFTA Cymru i fyfyriwr Cysylltiadau Rhyngwladol yn ei thrydedd flwyddyn

10 Tachwedd 2021

Panelwyr Pawb a'i Farn. Gallwch chi weld Emily, a fuodd hefyd yn gweithio y tu ôl i'r llenni ar y rhaglen, ar y chwith pellaf.
Panelwyr Pawb a'i Farn. Gallwch chi weld Emily, a fuodd hefyd yn gweithio y tu ôl i'r llenni ar y rhaglen, ar y chwith pellaf.

Mae myfyriwr yn ei thrydedd flwyddyn yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth wedi ennill gwobr BAFTA Cymru am raglen a dorrodd dir newydd ar sianel deledu Gymraeg.

Roedd Emily Pemberton, sy'n astudio Cysylltiadau Rhyngwladol, yn ymchwilydd a phanelwr ar y rhaglen newyddion a materion cyfoes Pawb a'i Farn (Black Lives Matter) a dorrodd dir newydd ym mis Gorffennaf 2020 fel y rhaglen gyntaf ar S4C i gael panel a oedd yn cynnwys cyfranwyr du yn unig. Roedd y rhaglen yn edrych ar fudiad Black Lives Matter, a gafodd sylw yn y cyfryngau cenedlaethol a rhyngwladol yn dilyn llofruddiaeth George Floyd, a pha mor berthnasol yw’r mudiad i Gymru.

Roedd Pawb a'i Farn yn un o dair rhaglen ar y rhestr fer yn y categori newyddion a materion cyfoes yng ngwobrau BAFTA Cymru, ac ar 24 Hydref 2021, cafodd ei chyhoeddi’n enillydd mewn seremoni wobrwyo ddigidol. Gan fod Emily yn y sefyllfa unigryw o weithio o flaen ac y tu ôl i'r camera, roedd tîm cynhyrchu'r rhaglen yng nghwmni teledu Tinopolis yn credu mai hi oedd y person delfrydol i dderbyn y wobr ar eu rhan.

Fe wnaeth Emily, sy'n siarad Cymraeg ac yn dod o Grangetown yng Nghaerdydd, dderbyn y wobr yn ddwyieithog dros Zoom, gan ddiolch i bawb a weithiodd ar y rhaglen ac a gyfrannodd at lwyddiant y rhaglen ar ôl 18 mis heriol iawn yng nghyd-destun cyfyngiadau’r cyfnod clo a COVID-19.

Mae Emily wedi gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau cyfryngau Cymraeg lleol a chenedlaethol ers gadael yr ysgol i geisio gwella cynrychiolaeth pobl ddu yn y cyfryngau yng Nghymru. Bu hefyd yn gweithio ar y rhaglen ddogfen Terfysg yn y bae am Derfysgoedd Hil Caerdydd ym 1919.

Wrth siarad am ei gwaith dywedodd Emily, "Ers i mi fod yn yr ysgol, rydw i wedi bod yn gweithio gyda gwahanol gyfryngau i gynyddu nifer y cyfleoedd sydd ar gael i bobl ddu drafod materion sy'n bwysig iddyn nhw, materion sydd ddim yn cael eu trafod fel arfer, neu sy’n cael eu hanwybyddu neu eu diystyru."

"Dyw lot o siaradwyr Cymraeg ddim yn sylweddoli pa mor wyn yw'r rhaglenni yma. Mae ennill y wobr yma yn dangos mai’r cyfan sydd ei angen yw cael platfform, a chael lle i siarad, a gweld beth sy’n dod yn ôl i chi. Mae'r rhaglen yma’n bwysig iawn gan nad yw hyn wedi cael ei wneud o'r blaen, ond ddylen ni ddim fod yn y sefyllfa yma. Dylai gael ei normaleiddio. Ymhen deng mlynedd, rydw i am weld pobl ddu yn siarad ar y teledu am bynciau ar wahân i hiliaeth. Tlodi, iechyd, yr economi."

Er bod gwaith Emily yn y cyfryngau yn digwydd yn ei hamser rhydd, mae cysylltiad uniongyrchol rhwng y gwaith hwn a’i hastudiaethau ar y rhaglen Cysylltiadau Rhyngwladol (BSc Econ). Mae Emily wedi dewis astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ac mae hi bellach yn ysgrifennu ei thraethawd hir ar y polisïau y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhoi ar waith i fynd i'r afael â hiliaeth, ac a yw hynny hyd yn oed yn bosibl.

"Mae fy nghwrs yn fy helpu i ddeall y byd ychydig yn well. Popeth - o'r stwff sy’n rhoi darlun mwy eang, i wleidyddiaeth ar lefel leol. Mae'n edrych ar fywyd pob dydd ac mae’r cynnwys mor amrywiol. Mae wedi rhoi'r hyder i mi edrych yn feirniadol a chwestiynu'r pethau pob dydd rydyn ni wedi dod i arfer â nhw, fel yr heddlu, y llywodraeth, ysgolion ac ati. Rydw i am i fy nhraethawd hir fod yn estyniad o fi fy hun, felly bydd ysgrifennu’r traethawd yn Gymraeg yn dipyn o her, ac rwy'n edrych ymlaen at fwrw ati."

Rhannu’r stori hon