Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Waikato yn llofnodi partneriaeth strategol
10 Tachwedd 2021
Bydd cyfleoedd rhyngwladol yn cael eu datblygu rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Waikato yn Seland Newydd yn rhan o bartneriaeth strategol newydd.
Mae'r cytundeb, a lofnodwyd mewn digwyddiadau a gynhaliwyd ar yr un pryd yn y ddwy brifysgol, yn adeiladu ar gytundeb Cyfnewid Myfyrwyr llwyddiannus rhwng y ddau sefydliad.
Mynychwyd y digwyddiad yng Nghaerdydd gan Weinidog Addysg Cymru.
Gyda lwc, bydd y bartneriaeth yn parhau i gynnig manteision i fyfyrwyr o’r naill sefydliad, yn ogystal ag arwain at gyfnewidfeydd addysgu tymor byr a thymor hir i academyddion. Bydd partneriaethau ymchwil newydd hefyd yn ogystal â chyfleoedd i staff gwasanaethau academaidd a phroffesiynol o'r ddwy wlad gydweithio'n agosach.
Hon yw’r bumed bartneriaeth ryngwladol y mae Prifysgol Caerdydd yn gysylltiedig â hi, yn rhan o'i strategaeth gyffredinol Y Ffordd Ymlaen.
Dyma ddywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor y Brifysgol: "Mae'r bartneriaeth hon yn adeiladu ar ein hymrwymiad i roi’r cyfle i symud a chyfnewid wrth wraidd ein cynnig i fyfyrwyr, yn ogystal â sicrhau bod y manteision yn cael eu gweld a'u teimlo yma yng Nghymru.
"Gyda phethau’n gwella o ran y pandemig, mae'n hanfodol ein bod yn parhau i roi cyfleoedd i fyfyrwyr a staff gydweithio â chydweithwyr ledled y byd. Mae llawer o gysylltiadau diwylliannol a daearyddol rhwng Cymru a Seland Newydd, ac rwy'n edrych ymlaen at weld sut mae'r bartneriaeth yn arwain at fanteision ymchwil, addysg a dinesig ehangach i'r ddwy wlad."
Ymhlith y meysydd ymchwil ac addysgu cychwynnol y bydd y bartneriaeth yn canolbwyntio arnynt gyntaf mae:
- Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau
- Deallusrwydd Artiffisial a Gwyddor Data (Roboteg)
- Busnes a Rheoli
- Dŵr, yr Amgylchedd a Newid yn yr Hinsawdd
Cafodd Prifysgol Waikato ei sefydlu ym 1964. Ers hynny, mae wedi dod yn brifysgol gynhwysfawr ac iddi hunaniaeth Maori gref sy’n cael ei harwain gan ymchwil. Mae ganddi gymuned ffyniannus o fyfyrwyr ac mae’n rhoi pwyslais ar ddatblygu cynaliadwy. Mae ganddi 13,000 o fyfyrwyr a 1,500 o staff ar ddau gampws yn Hamilton a Tauranga ar Ynys Ogleddol Seland Newydd. Mae ganddo hefyd Sefydliad ar y Cyd yn Hangzhou, Tsieina.
Yn ôl Is-Ganghellor Prifysgol Waikato, yr Athro Neil Quigley, bydd y berthynas gyda Chaerdydd yn cyfoethogi cyfleoedd staff a myfyrwyr yn y ddwy brifysgol ac yn dod ag arbenigedd o'r radd flaenaf o Gaerdydd i Waikato a Seland Newydd.
Dywedodd yr Athro Quigley: "Mae ein partneriaeth eisoes wedi dangos yr hyn y gellir ei gyflawni drwy gydweithio rhyngwladol rhwng academyddion ymroddedig mewn cyfnod byr ac yn ystod pandemig byd-eang. Mae llawer o debygrwydd rhwng Waikato a Chaerdydd ac mae'r bartneriaeth hon eisoes yn cyfoethogi profiad staff a pherfformiad ymchwil."
Dywedodd Mark Drakeford, y Prif Weinidog: "Mae Cymru'n parhau i fod yn genedl sy'n edrych tuag allan, gan groesawu'r rhai o bob cwr o'r byd sy'n dewis astudio yma a chefnogi symudedd rhyngwladol i'n pobl ifanc a'n hacademyddion.
"Mae'r cytundeb hwn rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Waikato yn dangos sut mae ein prifysgolion yn sefydliadau sydd â chysylltiad byd-eang, ac edrychaf ymlaen at weld y bartneriaeth yn tyfu ac yn sicrhau manteision yng Nghymru a Seland Newydd."
Dywedodd Gweinidog Addysg Cymru, Jeremy Miles: "Maes sydd o ddiddordeb arbennig i mi yn y cytundeb newydd hwn yw hyrwyddo ac astudio ein hieithoedd brodorol. Mae llawer o feysydd tebyg rhwng Cymru a Seland Newydd, ond gobeithiaf yn arbennig y gallwn gydweithio a dysgu oddi wrth ein gilydd ar ffyrdd o hyrwyddo'r datblygiadau a wnaed eisoes o ran hyrwyddo'r Gymraeg a'r ieithoedd Maōri.
"At hynny, rwy'n gobeithio y bydd y bartneriaeth strategol sy'n cael ei llofnodi heddiw yn gatalydd i gynyddu a chryfhau'r cydweithio ac yn bwysicach na dim, y cyfeillgarwch rhwng ein dwy wlad."