Ewch i’r prif gynnwys

Defnyddio arbenigedd hanesydd o Gaerdydd i helpu i gyflawni nodau Castell Cyfarthfa

8 Tachwedd 2021

Arbenigwraig mewn Hanes Cymru’n ymuno â bwrdd prosiect mawr ym Merthyr

Mae darllenydd mewn Hanes Cymru, Dr Marion Loeffler, yn dod â’i harbenigedd i fenter sy’n canolbwyntio ar atyniad twristiaeth ar thema treftadaeth ddiwydiannol yng Nghastell Cyfarthfa, Merthyr Tudful.

Mae'n ymuno â bwrdd Sefydliad Cyfartha ochr yn ochr ag arbenigwyr mewn pensaernïaeth, treftadaeth, pensaernïaeth tirwedd a chynaliadwyedd: Dr Carol Bell, Geoff Hunt, Syr Simon Jenkins, Ewan Jones, Hanif Kara, Robert Rummey a Sara Turnbull.

Mae cynllun 20 mlynedd y sefydliad yn rhagweld cael amgueddfa ac oriel gelf o ansawdd rhyngwladol mewn parc cyhoeddus 100 hectar estynedig sydd â’r potensial i ddenu bron i hanner miliwn o ymwelwyr y flwyddyn. Mae hefyd yn ceisio sicrhau bod adnewyddu cymdeithasol ac ymgysylltu â’r gymuned yn ganolog iddo.

Mae arbenigedd haneswyr o'r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd yn cael ei ddefnyddio’n rheolaidd gan nifer o fyrddau a chyrff cenedlaethol er budd cymdeithas ehangach.

Rhannu’r stori hon