I’m a Celebrity yn rhoi dyfodol disglair i gastell yng Nghymru
8 Tachwedd 2021
Castell yng Ngogledd Cymru wedi codi fel ffenics ar ôl degawdau o ymgyrchu gan fyfyriwr o Brifysgol Caerdydd mewn datblygiad cadarnhaol sy’n ganlyniad annisgwyl i’r pandemig.
Mae myfyriwr o Gaerdydd, Dr Mark Baker, wedi ymgyrchu dros ddiogelu ac adfer y castell sy’n tanio ei ddychymyg yn ystod ei blentyndod yn ei ardal frodorol yng Ngogledd Cymru. Wrth i gystadleuwyr I’m a Celebrity... Get Me Out of Here 2021 ddod ynghyd unwaith eto yng Nghastell Gwrych, ni fu dyfodol y castell erioed yn ddisgleiriach.
Yn adlewyrchu dau fileniwm, mae Castell Gwrych yn deillio o gyfnod y Rhufeiniaid, gan chwarae rôl ym mywyd y genedl drwodd i ddigwyddiadau mwyaf yr ugeinfed ganrif, pan oedd yn cael ei ddefnyddio fel ysbyty milwrol yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac fel lloches ar gyfer plant Iddewig a achubwyd gan Operation Kinderstransport ar ddechrau’r Ail Ryfel Byd.
Dros y degawdau canlynol, bu’r plasty hanesyddol rhestredig Gradd I yn dioddef dirywiad araf, nes iddo gael ei achub ar gyfer y genedl yn 2018 trwy ymdrechion Ymddiriedolaeth Castell Gwrych a gododd ychydig yn is o filiwn o bunnoedd mewn chwe wythnos trwy haelioni rhoddwyr a chymorth y Loteri Genedlaethol.
Wrth i effaith fyd-eang pandemig Covid-19 fwrw yn 2020, cafwyd tro cadarnhaol mawr arall yn ffawd y castell. Wrth chwilio am leoliad yn y DU ar gyfer I’m a Celebrity...Get Me Out of Here, cafodd 70 o leoliadau eu lleihau i 30 ar gyfer y rhestr fer cyn i Gastell Gwrych ennill y comisiwn.
Oherwydd y rhaglen boblogaidd gan ITV, cafodd y cynlluniau i wella’r adeilad eu datblygu’n gynt mewn dull amlasiantaeth rhwng yr Ymddiriedolaeth dan gadeiryddiaeth Dr Baker, Cadw, yr awdurdod lleol Chyfoeth Naturiol Cymru.
Mae’r hanesydd pensaernïol Dr Mark Baker , wedi ymroi llawer o’i fywyd i ddiogelu ac adfer y safle hanesyddol ger Abergele. Dechreuodd ei gysylltiad ym 1997 gyda phrosiect haf i’r ysgol, a ddatblygodd yn gyflym oherwydd sylw yn y cyfryngau lleol, sylw tywysogion a phrif weinidogion a chymorth cynyddol pobl leol i achub y safle.
Yn frwd dros ddyfodol y safle, sefydlodd Baker Ymddiriedolaeth Castell Gwrych pan oedd ond yn 11 oed. Wrth ddilyn ei ddiddordebau mewn diwylliant materol a phensaernïaeth Gymreig o ysgrifennu ei lyfr cyntaf yn 13 oed, mireiniodd ei ddiddordeb yn y brifysgol gan ennill ei radd Meistr a’i ddoethuriaeth yng Nghaerdydd, o dan oruchwyliaeth arbenigwyr yn yr Ysgol Pensaernïaeth a’r Ysgol Hanes, Archeoleg a Chrefydd.
Mae’r awdur a’r darlithiwr yn falch o arwyddocâd y ffenics yn codi i’w ardal leol:
“Un o’n nodau oedd ceisio defnyddio cynifer o gynhyrchion a gwasanaethau lleol â phosibl i gynnal yr economi leol a pharchu’r Gymraeg a diwylliant Cymru. Mae ITV wedi rhoi ystyriaeth i hyn. Mae ein hymweliadau wedi cynyddu o tua 40,000 i ychydig dros 100,000 eleni. Nid dod i'r castell a gadael yn unig y mae'r bobl hyn, maen nhw'n cael gwyliau yn yr ardal ac yn mynd allan am brydau bwyd.
Wrth edrych ymlaen ar ôl i’r rhaglen gael y nifer uchaf o wylwyr yn 2020, mae gan Mark uchelgeisiau o hyd a fyddai’n addas i gastell:
“Fy nyheadau yw diogelu ac ailosod cymaint o’r castell â phosibl er mwyn ei gael yn gweithredu’n iawn eto. Mae’r holl broses o adfer yn dal yn gyffrous i mi. Es i mewn i rannau o'r castell ychydig ddyddiau'n ôl a dim ond wrth weld y gwaith mae ITV wedi'i wneud, sut maen nhw wedi trawsnewid lle arall yn rhywbeth gwych iawn, yn rhoi gwefr i mi. Rwy'n edrych ymlaen at y diwrnod y gallaf eistedd i lawr ac ysgrifennu hanes manwl, diffiniol o'r ystâd.”
Ac yntau’n awdur mwy nag 20 o lyfrau, mae’r hanesydd pensaernïol Dr Mark Baker newydd oruchwylio canllaw y tu ôl i’r llenni i wneud I’m a Celebrity yn y castell gyda’r elw yn mynd tuag at Ymddiriedolaeth Castell Gwrych.
Bydd I’m a Celebrity...Get Me Out of Here yn dychwelyd ar gyfer 2021 o ddydd Sul 21 Tachwedd.