Ymchwil newydd yn awgrymu y gallai gwisgo mygydau effeithio ar sut rydym yn rhyngweithio ag eraill
4 Tachwedd 2021
Mae ymchwil newydd yn awgrymu bod cuddio hanner isaf yr wyneb gyda mwgwd yn gallu effeithio ar ein gallu i ryngweithio'n gymdeithasol a rhannu emosiynau pobl eraill.
Yn ôl astudiaeth a arweiniwyd gan Brifysgol Caerdydd, gallai pobl â pharlys wyneb, pobl sy'n gweld eraill sy'n gwisgo masgiau wyneb, neu hyd yn oed blant sy'n sugno ar ddymis, gael trafferth dangos empathi neu sylwi ar arwyddion cymdeithasol cadarnhaol.
Cyhoeddir yr ymchwil yn y cyfnodolyn Cognitive, Affective, and Behavioral Neuroscience.
Dywedodd y prif awdur, Dr Ross Vanderwert o Ysgol Seicoleg Prifysgol Caerdydd: "Mae pobl yn tueddu i ddynwared yr emosiwn a fynegir ar wynebau pobl eraill wrth edrych arnynt, p’un a ydyn nhw’n gwenu, yn gwgu neu’n chwerthin. Mae'r dynwarediad hwn o’r wyneb – lle mae'r ymennydd yn ail-greu ac yn adlewyrchu profiad emosiynol y person arall – yn effeithio ar sut rydym yn cydymdeimlo ag eraill ac yn rhyngweithio'n gymdeithasol.
"Mae ein hastudiaeth yn awgrymu, pan fydd symudiadau yn rhan isaf yr wyneb yn cael eu amharu neu eu cuddio, gall hyn beri problem, yn enwedig ar gyfer rhyngweithio cymdeithasol cadarnhaol a'r gallu i rannu emosiynau.
"Mae gwisgo mwgwd yn parhau i fod yn hanfodol i amddiffyn ein hunain ac eraill yn ystod pandemig COVID-19 - ond mae ein hymchwil yn awgrymu y gallai hyn beri goblygiadau o bwys i'r ffordd rydym yn cyfathrebu ac yn rhyngweithio."
Cofnododd y gwyddonwyr weithgarwch ymennydd 38 o unigolion drwy electroencephalogram wrth iddynt wylio fideos o fynegiannau ofnus, hapus a dig, yn ogystal â chasgliad o wrthrychau bob dydd cynhenid, fel dull rheoli.
Gofynnwyd i’r rhai a gymerodd ran yn yr astudiaeth wylio'r fideos wrth ddal beiro rhwng eu dannedd am hanner y fideos, ac wedyn heb y beiro ar gyfer gweddill y fideos.
Roedd yr ymchwilwyr yn ymchwilio, am y tro cyntaf, i'r effaith a gafodd hyn ar broses a elwir yn ddrych niwral – gweithgaredd yn y system echddygol ar gyfer ein gweithredoedd ein hunain ac sydd hefyd yn arsylwi ar weithredoedd eraill. Mae drych niwral yn hwyluso tasgau syml fel cydsymud y llygaid a’r llaw, a thasgau mwy cymhleth fel deall emosiynau pobl eraill.
Datgelodd y canlyniadau fod y rhai oedd yn gallu symud eu hwyneb yn ddi-rwystr yn dangos drych niwral sylweddol wrth arsylwi'r ymadroddion emosiynol, ond nid y gwrthrychau bob dydd.
Pan oedd y beiro rhwng eu dannedd, ni welwyd unrhyw ddrych niwral wrth edrych ar y mynegiannau hapus a dig – ond roedd yn dangos drych niwral wrth edrych ar fynegiannau ofnus.
"Ar gyfer emosiynau sy'n cael eu mynegi'n fwy eglur gan y llygaid, er enghraifft ofn, nid yw atal y wybodaeth a ddarperir gan y geg yn effeithio ar ymateb ein hymennydd i'r emosiynau hynny yn ôl pob golwg. Ond ar gyfer ymadroddion sy'n dibynnu ar y geg, fel gwên gyfeillgar, cafodd y blocio fwy o effaith," meddai'r ail awdur Dr Magdalena Rychlowska, o Ysgol Seicoleg Prifysgol y Frenhines Belffast.
"Mae ein canfyddiadau'n awgrymu bod prosesu wynebau yn dasg hynod heriol a bod angen cymorth yr wyneb ar yr ymennydd, a’i fod yn dibynnu arno, i gefnogi'r system weledol er mwyn deall emosiynau pobl eraill.
"Gall adlewyrchu neu efelychu emosiynau person arall alluogi empathi; fodd bynnag, hyd yma mae'r mecanweithiau niwral sy'n cynorthwyo'r math hwn o gyfathrebu emosiwn wedi bod yn aneglur."