Arbenigwr blaenllaw mewn ‘Ffactorau Dynol’ wedi’i benodi’n Athro Gwadd
4 Tachwedd 2021
Mae arbenigwr blaenllaw mewn ffactorau dynol wedi sicrhau swydd Athro Gwadd yr Academi Beirianneg Frenhinol ym Mhrifysgol Caerdydd.
Bydd yr Athro Alex Stedmon yn dechrau ei swydd ym maes Systemau Dynol y Dyfodol: Peirianneg wedi’i Harwain gan Brofiad, yn yr Ysgol Seicoleg, yn yr hydref.
Yr Athro Stedmon yw Llywydd Etholedig y Sefydliad Siartredig ar gyfer Ergonomeg a Ffactorau Dynol ar hyn o bryd. Mae ei ymchwil mewn sawl maes trafnidiaeth, amddiffyniad/diogelwch a rhyngwynebau uwch wedi torri tir newydd.
Mae’n arbenigo mewn systemau cymhleth, realiti rhithwir/efelychu, ymddygiad defnyddwyr a pherfformiad dynol, gan gynnwys mewnbynnu llais a dod â gofynion defnyddwyr i’r golwg.
Bydd ei rôl ym Mhrifysgol Caerdydd yn croesi tair Ysgol Academaidd ac yn cefnogi’r Ganolfan ar gyfer Deallusrwydd Artiffisial, Roboteg a Systemau Peiriant-Dynol (IROHMS) a Rhagoriaeth Ffactorau Dynol (HuFEx).
"Rwy'n falch iawn o fod yn ymuno ag IROHMS a HuFEx sy'n hyrwyddo mentrau rhyngddisgyblaethol cyffrous rhwng yr Ysgol Seicoleg, yr Ysgol Peirianneg a’r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg," meddai'r Athro Stedmon.
"Byddaf yn llysgennad diwydiannol sy'n cefnogi dysgu a chyflogadwyedd myfyrwyr. A minnau’n canolbwyntio ar beirianneg wedi’i harwain gan brofiad, rwy'n edrych ymlaen at ddatblygu cynnwys addysgu newydd i helpu graddedigion i ddod yn weithwyr peirianneg proffesiynol a chymdeithasol-dechnegol."
Mae gyrfa academaidd yr Athro Stedmon yn rhychwantu Prifysgol Coventry, lle datblygodd y cwrs MSc Ffactorau Dynol ym maes Hedfanaeth, Prifysgol Nottingham, lle ef oedd Arweinydd Academaidd y cwrs MSc Ffactorau Dynol, gan gynnwys Prifysgol Sheffield Hallam. Roedd hefyd yn Gymrawd Gwadd ym Mhrifysgol Technoleg Auckland.
Mae wedi gweithio gyda’r diwydiant, gan gynnwys yr Asiantaeth Gwerthuso ac Ymchwil Amddiffyn (DERA) a QinetiQ, ac mae wedi sicrhau mwy na £31m mewn cyllid ar gyfer ymchwil gydweithredol. Mae wedi cyhoeddi llawer mewn cyfnodolion sy’n cael eu hadolygu gan gymheiriaid, ac mae wedi ennill nifer fawr o gontractau â’r diwydiant, cynghorau ymchwil a chyrff cyhoeddus, ynghyd â chyllid sylweddol gan y Comisiwn Ewropeaidd.
Mae ei rôl wedi’i hyrwyddo gan Phillip Morgan, Athro mewn Ffactorau Dynol a Gwyddor Wybyddol yn yr Ysgol Seicoleg, Cyfarwyddwr HuFEx a Chyfarwyddwr Ymchwil IROHMS.
"Rydym yn falch iawn o groesawu'r Athro Stedmon i'r Ysgol Seicoleg ym Mhrifysgol Caerdydd," meddai'r Athro Morgan.
"Mae Alex yn arbenigwr o safon fyd-eang mewn ffactorau dynol a, diolch i wobr yr Academi Beirianneg Frenhinol, bydd yn dod â degawdau o brofiad i’r Brifysgol ac yn rhannu gwybodaeth werthfawr o’r diwydiant a’r byd academaidd â myfyrwyr Seicoleg, Peirianneg a Chyfrifiadureg. Byddwn yn gweithio gyda'n gilydd i ddatblygu darpariaeth a addysgir sydd hyd yn oed yn fwy arloesol ym maes systemau dynol y dyfodol. Bydd hyn yn gwella’r cwricwlwm ac uchelgeisiau gyrfa llawer o’n myfyrwyr ymhellach, gan gynnwys cynyddu ymhellach nifer y swyddi sydd ar gael.”
Bydd yr Athro Stedmon yn traddodi ei ddarlith gyntaf, 'Systemau Dynol y Dyfodol: Peirianneg Symbiotig’, yn ddiweddarach eleni. Bydd yn ystyried sut y gall peirianneg ychwanegu at allu dynol, nodi lle nad yw unrhyw allu cystal â gallu dynol eto a nodi lle mae angen cyfraniad dynol bob amser.
Bydd yr Athro Stedmon yn dechrau ei rôl yr hydref hwn, a bydd gyda ni tan 2024.