Roedd perthynas plant ag athrawon yn parhau'n gryf er gwaethaf anawsterau emosiynol y pandemig, yn ôl adroddiad
4 Tachwedd 2021
Mae ysgolion cynradd wedi chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gefnogi plant drwy'r heriau iechyd meddwl sylweddol a achoswyd gan COVID-19, yn ôl adroddiad gan Brifysgol Caerdydd.
Dywedodd dros chwarter y bobl ifanc 10-11 oed eu bod wedi profi anawsterau emosiynol uwch neu glinigol arwyddocaol yn ystod y pandemig, i fyny o 17% yn 2019, mae'r data'n datgelu.
Er gwaethaf y pwysau emosiynol trwm a achoswyd gan y cyfyngiadau clo a dysgu yn y cartref, roedd y rhan fwyaf o blant yn parhau i fod â chysylltiadau da â'u hysgolion cynradd, gan sgorio perthynas â staff yn gadarnhaol, meddai'r adroddiad.
Wrth ymateb i arolwg ar-lein, dywedodd 90% o blant eu bod yn teimlo eu bod yn derbyn gofal ac yn cael eu derbyn gan eu hathrawon, tra bod 80% yn ymddiried yn eu hathrawon ac yn cytuno bod o leiaf un oedolyn yn yr ysgol y gallant siarad â nhw am bethau sy'n eu poeni.
Canfu'r tîm, o'r Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth ym maes Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer), fod peidio â gweld ffrindiau neu aelodau o'r teulu a'r teulu yn mynd yn sâl gyda Covid ymhlith y pryderon mwyaf parhaus a brofwyd gan bobl ifanc 10-11 oed yn ystod y pandemig.
Roedd plant o gefndiroedd tlotach tua dwywaith yn fwy tebygol o adrodd anawsterau emosiynol ac ymddygiadol uwch o gymharu â'r rhai o'r teuluoedd mwyaf cefnog, yn ôl data'r arolwg.
Dywedodd arweinydd yr astudiaeth, yr Athro Graham Moore, Dirprwy Gyfarwyddwr DECIPHer: “Yn gyson â thystiolaeth ryngwladol gynyddol, gwelsom gynnydd mawr yng nghyfran y plant a adroddodd am anawsterau emosiynol uwch neu glinigol arwyddocaol ers dechrau COVID-19.
“Ond yr hyn a ddaeth drwodd hefyd yn ein data oedd y berthynas rhwng athrawon a'u disgyblion. Roedd y cysylltiadau hyn yn parhau'n gyson gryf ymhlith y plant a arolygwyd gennym, gan ddangos y rôl hanfodol y mae gweithwyr addysg proffesiynol wedi'i chwarae i bobl ifanc yn ystod y pandemig.
“Mae'n gredadwy pe na bai athrawon a staff cymorth wedi gwneud gwaith mor dda o gysylltu â'u disgyblion fel hyn, y byddem yn delio ag argyfwng iechyd meddwl hyd yn oed yn fwy ymhlith ein plant.”
Ymatebodd disgyblion Blwyddyn 6 i arolwg iechyd a lles rhwng mis Ebrill a mis Gorffennaf eleni a gynlluniwyd gan dîm Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion (SHRN) o fewn DECIPHer.
Er mwyn cydymffurfio â chyfyngiadau diogelwch Covid mewn ysgolion, newidiodd y tîm ymchwil o arolygon pen a phapur i arolygon ar-lein a rhoddodd brotocolau i athrawon yn seiliedig ar arolygon ar-lein presennol i oruchwylio'r broses, a gwblhawyd ar draws 76 o ysgolion o 19 o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru.
Wedi'i gomisiynu ar y cyd gan Weinidogion Llywodraeth Cymru dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ac ar gyfer Addysg, mae'r adroddiad yn rhan o brosiect i ehangu'r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion presennol i Gymru gyfan i ysgolion cynradd. Cymharwyd y data newydd ag arolwg a gynhaliwyd gan y tîm cyn y pandemig, a ariannwyd gan Cancer Research UK, i ddeall newid dros amser.
Cefnogwyd y gwaith hefyd gan Ganolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc, a sefydlwyd gyda grant gan Sefydliad Wolfson.
Dywed ymchwilwyr y bydd y gwaith hwn yn eu galluogi i nodi pwyntiau ymyrraeth cynharach i ddeall a chefnogi digwyddiadau sy'n effeithio ar iechyd a lles disgyblion yng Nghymru.
Ychwanegodd yr Athro Moore, sy'n gweithio yn Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd: “Er bod pobl yn aml yn dweud 'mae plant yn wydn', mae ein data yn dangos yr effaith sylweddol y mae'r pandemig wedi'i chael ar iechyd meddwl plant. Bydd llawer o blant yn gwella unwaith y bydd yr amgylchiadau presennol yn gwella. Fodd bynnag, i lawer, bydd profiadau o'r pandemig yn cael effaith barhaol ar eu hiechyd meddwl heb gymorth priodol ar gyfer eu hadferiad emosiynol. Er na allwn ddisgwyl i ysgolion wneud popeth, byddant yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o gefnogi adferiad emosiynol plant o'r pandemig wrth symud ymlaen.”
Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles: “Mae ein hathrawon a’n gweithwyr cymorth wedi gweithio’n ddiflino trwy gydol y pandemig i gefnogi dysgwyr. Mae'r adroddiad yma’n dyst i'w gwaith caled i gynnal y perthnasoedd cryf hynny mewn amgylchiadau anodd.
“Mae’r pandemig wedi cael effaith sylweddol ar iechyd meddwl pobl o bob oed. Yn aml, gall cefnogaeth ar yr amser cywir osgoi problemau tymor hir, felly rwyf am sicrhau bod ein gwaith llwyddiannus mewn ysgolion yn cael ei ymestyn ar draws y system addysg gyfan, yn ogystal a mewn i gymunedau, fel bod pob person ifanc yn gallu cael gafael ar gymorth pan a lle maen nhw ei angen.” Darllenwch yr adroddiad yn llawn ar wefan SHRN.