Ewch i’r prif gynnwys

Ysgolhaig o Gaerdydd yn cael cydnabyddiaeth ar restr fer gwobr llyfr Affricanaidd

3 Tachwedd 2021

Mae Rachel Korir yn eistedd o flaen ei chartref yn Kapcheboi, Kenya, 6 Mai 2019. Hawlfraint Sefydliad Thomson Reuters/Dominic Korir.
Mae Rachel Korir yn eistedd o flaen ei chartref yn Kapcheboi, Kenya, 6 Mai 2019. Hawlfraint Sefydliad Thomson Reuters/Dominic Korir.

Gosodwyd llyfr a ysgrifennwyd gan Athro Cyfraith Tir yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth ar restr fer gwobr llyfr Cymdeithas Astudiaethau Affricanaidd UD (ASA) eleni.

Cyfrol yr Athro Ambreena Manji, The Struggle for Land and Justice in Kenya yw un o bum teitl ar restr fer y wobr eleni sy'n cydnabod y gwaith ysgolheigaidd pwysicaf mewn astudiaethau Affricanaidd a gyhoeddwyd yn Saesneg yn ystod y flwyddyn flaenorol. Yr ASA UD yw'r sefydliad aelodaeth blaenllaw ar gyfer gwella cyfnewid gwybodaeth am Affrica.

Mae llyfr yr Athro Manji'n trafod pam fod deddfwriaeth a orchmynnwyd gan gyfansoddiad Kenya yn 2010 wedi methu â mynd i'r afael â chwynion hirsefydlog am ddosbarthiad tir anghyfartal. Dadl yr Athro Manji yw bod cyfraith tir yn Kenya ers 2010 wedi canolbwyntio ar ailddosbarthu grym biwrocrataidd yn hytrach na datrys mynediad anghyfartal pobl gyffredin Kenya at dir.

Cymerodd y gyfrol ddegawd i'w chwblhau ac mae'n deillio o gyfnod yr Athro Manji yn Gyfarwyddwr y Sefydliad Prydeinig yn Nwyrain Affrica rhwng 2010 a 2014 pan fu'n ymchwilio ac yn cynghori ar gyfreithiau tir Kenya yn 2012. Yno, bu'n cydweithio'n agos gyda'r Athro Yash Pal Ghai, Cadeirydd Comisiwn Adolygu Cyfansoddiad Kenya, i sicrhau bod biliau tir yn cydymffurfio â'r dyheadau cyfansoddiadol ynghylch tir.

Wrth siarad am ei llyfr, dywedodd yr Athro Manji, "Roeddwn i am gofnodi'r frwydr dros gysylltiadau tir tecach mewn cyd-destun hanesyddol a gweithio ar y croestoriad rhwng cyfraith tir a chyfraith gyfansoddiadol. Nid oes modd deall problemau mynediad anghyfartal at adnoddau cynhyrchiol o safbwynt un ddisgyblaeth. Mae fy llyfr yn tynnu ar amrywiol ddisgyblaethau gan gynnwys hanes, gwyddor wleidyddol, y gyfraith, astudiaethau llenyddol ac anthropoleg i gynnig cipolwg ar frwydrau dinasyddion am eu bywoliaeth."

Wrth sôn am y rhestr fer, dywedodd yr Athro Manji "Rwyf i wrth fy modd cael bod yng nghwmni ysgolheigion yr wyf i’n edmygu eu gwaith. Fy nghyfrol i yw'r unig un gan ysgolhaig y gyfraith ac rwy'n gobeithio y bydd yn bodloni fy nghydweithwyr mewn disgyblaethau eraill ac y bydd o ddefnydd iddyn nhw."

Disgrifiwyd llyfr yr Athro Manji gan adolygwyr fel un "'arloesol ac yn torri tir newydd yn ei archwiliad amlddisgyblaethol o’r sefyllfa anghyfartal o ran tiroedd yn Kenya a'i gasgliadau arbrofol."

Yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, mae'r Athro Manji yn goruchwylio carfan o fyfyrwyr PhD o Ddwyrain a De Affrica ac yn dysgu modiwlau mewn Problemau Byd-eang a Theori Gyfreithiol; Gwahaniaethu a'r Gyfraith; a'r Gyfraith a Llenyddiaeth.

Cyhoeddir enillydd gwobr llyfr y Gymdeithas Astudiaethau Affricanaidd (ASA) yn ystod y cyfarfod blynyddol eleni a gynhelir ar 16 – 20 Tachwedd 2021.

Rhannu’r stori hon