Bwrdd Cynghori Gwyddonol yn arddangos cyrhaeddiad byd-eang canolfan ymchwil
10 Tachwedd 2021
Cynhaliodd Canolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc gyfarfod blynyddol cyntaf eu Bwrdd Cynghori Gwyddonol Rhyngwladol y mis hwn.
Daeth y cyfarfod rhithwir ag arbenigwyr academaidd sy'n eistedd ar y Bwrdd Cynghori Gwyddonol ynghyd o bob cwr o’r byd i drafod chwe ffrwd waith ymchwil y Ganolfan.
Roedd nifer dda yn y cyfarfod, dan gadeiryddiaeth yr Athro Syr Michael Owen, gyda staff o bob rhan o Ganolfan Wolfson a chynrychiolwyr o Sefydliad Wolfson, a fu’n arsylwi’r sesiwn. Yn ogystal â chynnig cyngor ac arweiniad gan y bwrdd o academyddion rhyngwladol trwy’r sgwrs eang ei chwmpas, bu’r bwrdd hefyd yn rhoi adborth ar y gwaith a wnaed hyd yma gan Ganolfan Wolfson, a thargedau i weithio arnynt yn ystod y blynyddoedd nesaf.
Dywedodd Cyd-gyfarwyddwr Canolfan Wolfson, yr Athro Stephan Collishaw: "Roeddem yn falch iawn bod ein Bwrdd Cynghori Gwyddonol wedi ymuno â ni ar gyfer cyfarfod blynyddol cyntaf y bwrdd. Rhoddodd ein cydweithwyr rhyngwladol arweiniad a chyngor amhrisiadwy ar gyfeiriad, strategaeth a gweithgarwch hirdymor y Ganolfan yn y dyfodol, yn ogystal ag ysbrydoliaeth i nodi cyfleoedd ar gyfer cydweithio gwyddonol yn y dyfodol."
Ychwanegodd yr Athro Frances Rice, Cyd-gyfarwyddwr Canolfan Wolfson: "Rydym mor ddiolchgar i'r arbenigwyr o’r radd flaenaf am roi o’u cyngor a’u barn i ni, ac ymuno â ni ar-lein, er ein bod ni i gyd yn gweithio ar draws tri pharth amser gydag aelodau'r bwrdd yn mewngofnodi o India, yr Unol Daleithiau a gwahanol rannau o’r Deyrnas Unedig.
"Mae'r bwrdd yn arddangos y cysylltiadau rhyngwladol cryf sydd gennym yma yn y Ganolfan a'r cyrhaeddiad byd-eang posibl sydd i’n hymchwil ei gael ym maes iechyd meddwl."
Dywedodd Dr Ellen Leibenluft, sy'n aelod o'r Bwrdd Cynghori Gwyddonol ac sy’n gweithio yn y Sefydliad Cenedlaethol er Iechyd Meddwl yn yr Unol Daleithiau: "Roedd yn bleser gwirioneddol ymuno â thîm Canolfan Wolfson ac eistedd ar eu bwrdd cynghori. Roedd meddyliau'r bwrdd yn unfrydol gadarnhaol ac rydym yn frwdfrydig ynghylch dyfodol y ganolfan ymchwil hon.
I gloi, dywedodd yr Athro Stephan Collishaw: "Hoffem ddiolch, unwaith eto, i'n holl gydweithwyr rhyngwladol am eu cymorth a'u cyngor hyd yma. Mae cyfarfod y Bwrdd Cynghori Gwyddonol wedi sicrhau bod gan y tîm cyfan gymhelliant pellach a’u bod yn canolbwyntio ar ein cynlluniau ymchwil yng Nghanolfan Wolfson.
"Edrychwn ymlaen at groesawu'r bwrdd eto'r flwyddyn nesaf, p’un a fydd hynny ar-lein, wyneb yn wyneb neu o bosib cyfuniad o’r ddau, a pharhau i greu ein partneriaethau rhyngwladol cryf rhwng Canolfan Wolfson a chydweithwyr ar draws y byd."