iLEGO 2021
3 Tachwedd 2021
Mae ymarferwyr o fyd diwydiant a'r byd academaidd wedi rhannu gwybodaeth ac arbenigedd ynghylch Diwydiant 4.0 ar gyfer arferion gwydn a chynaliadwy ym maes y gadwyn gyflenwi yng ngweithdy Arloesi mewn Mentergarwch Darbodus a Gweithrediadau Gwyrdd (iLEGO) Ysgol Busnes Caerdydd ar 8 Medi 2021.
Cynhaliwyd gweithdy eleni, y 5ed o'i fath, yn rhithwir unwaith eto, ac roedd yn rhan o Gynhadledd LRN2021 . Croesawodd yr Athro Rachel Ashworth y 160 o gynadleddwyr i'r digwyddiad, gan bwysleisio pwysigrwydd iLEGO yng nghenhadaeth Gwerth Cyhoeddus yr Ysgol.
Fe wnaeth yr Athro Janet Godsell, Deon Ysgol Busnes ac Economeg Prifysgol Loughborough, roi’r prif anerchiad, gan drafod y cysylltiad rhwng cynhyrchiant y gadwyn gyflenwi, gwydnwch a chynaliadwyedd, ac 'a allwn ni gael y cyfan?'.
Trafododd ffyrdd o gynllunio cadwyni cyflenwi er mwyn sicrhau manteision ym mhob un o'r tri maes, ynghyd â lleihau defnydd mewn modd cyfrifol.
Dr Nicola Millard, Prif Bartner Arloesedd yn BT, oedd y nesaf i siarad, gan drafod y tueddiadau sy'n llywio gweithle’r dyfodol: gweithio hyblyg, a datgysylltu gwaith o leoliadau ac amseroedd penodol. "Mae gennym gyfle yma i ailddyfeisio’r cysyniad o waith ei hun. Gwaith yw’r hyn y dylwn ni ganolbwyntio arno mewn trefniadau hybrid. Os ydyn ni'n mynd i ailddyfeisio gwaith, gadewch i ni wneud yn siŵr ei fod yn beth da i gynhyrchiant, pobl a'r blaned."
Y nesaf i siarad oedd Asif Moghul, Rheolwr Datblygu'r Farchnad, Dylunio a Gweithgynhyrchu yn Autodesk, a rannodd ei syniadau ynglŷn â sut mae trawsnewid digidol yn helpu pobl, y blaned ac elw. Esboniodd i'r cynadleddwyr sut i fanteisio ar dechnoleg, prosesau a phobl i gyflawni’r hyn sy’n cael ei ystyried yn amhosibl, a sut mae cydweithio yn elfen hanfodol.
Ar ôl seibiant byr, y ffocws ar gyfer yr adran nesaf oedd cynaliadwyedd a’r modelau sydd eu hangen ar gyfer y dyfodol, mewn perthynas â thechnoleg ddigidol.
Siaradodd Romy Kenyon, Uwch-reolwr Cynaliadwyedd EMEA yn 3M am baratoi busnesau ar gyfer y dyfodol drwy ddylunio cynhyrchion a modelau busnes newydd. Esboniodd sut rydym yn cyrraedd pwynt tyngedfennol o ran y newid yn yr hinsawdd a byd busnes. Trafododd yr angen i baratoi busnesau ar gyfer y dyfodol drwy ddylunio cynhyrchion, modelau busnes newydd, nodau cynaliadwyedd, caffael cyhoeddus gwyrdd, ac ailgylchu. Ei gwestiwn oedd: "Beth allwn ni ei wneud i wella ein hamgylchedd?"
Siaradodd Nicholas Leeder, Is-lywydd Byd-eang ar gyfer Trawsnewid Digidol yn PTC, am dechnolegau Diwydiant 4.0 a'u rôl mewn cynaliadwyedd a'r economi gylchol, o ran helpu gydag agendâu cwsmeriaid mewn perthynas â chynaliadwyedd a lleihau carbon mewn prosesau gweithgynhyrchu.
Karen Miller, Uwch-gyfarwyddwr Rheoli Cynhyrchion, GE Digital, oedd siaradwr olaf y dydd yn trafod 'Mewnwelediadau a Ysgogir gan Ddata i Ragweld Digwyddiadau Cynnal a Chadw Awyrennau a Chynyddu Cynaliadwyedd'. Clywsom am sut mae GE Digital yn defnyddio data llawn hediadau, sut maent yn ei brosesu a'i ddadansoddi, a sut y gallwn ddysgu o'r data hwn.
"Roedd ein siaradwyr rhagorol o’r farn bod y modelau busnes newydd sy'n cael eu llywio gan arloesedd ym myd technoleg yn cynnig nifer o gyfleoedd i fod yn wydn ac yn gynaliadwy, ond ar yr un pryd yn cynnig llawer o heriau i reolwyr gweithrediadau. Roedd yr enghreifftiau a rannwyd gan y siaradwyr yn rhoi cipolwg ar sut y gallwn ddylunio, rheoli, cyflwyno a galluogi modelau busnes newydd yn well drwy weithrediadau arloesol. Thema gyffredin a ddaeth i’r amlwg ym mhob un o’r chwe sesiwn oedd y bydd pobl yn dal i chwarae rhan bwysig yn oes Diwydiant 4.0, er y bydd angen addasu eu sgiliau presennol i gystadlu yn y byd digidol."