Penodi Kirsty Williams yn Gymrawd Gwadd Nodedig
3 Tachwedd 2021
Penodwyd Kirsty Williams yn Gymrawd Gwadd Nodedig ym Mhrifysgol Caerdydd.
Dyfarnwyd y Gymrodoriaeth i gyn-Weinidog Addysg Llywodraeth Cymru i gydnabod ei gwasanaeth nodedig mewn gwleidyddiaeth a bywyd cyhoeddus.
Dywedodd Ms Williams: "Mae'n anrhydedd mawr i mi dderbyn y wobr hon gan Brifysgol Caerdydd. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gefnogi Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, ar adeg pan fo angen arbenigedd y rhai yn y Brifysgol yn fwy nag erioed, wrth i Gymru geisio gwella o'r pandemig byd-eang."
Gwasanaethodd Kirsty Williams fel y Gweinidog Addysg yn Llywodraeth Cymru rhwng 2016 a 2021. Bu'n Aelod o'r Senedd i'r Democratiaid Rhyddfrydol rhwng 1999 a 2021, a chyn hynny bu'n Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymru rhwng mis Rhagfyr 2008 a mis Mai 2016, ac yn Gadeirydd Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y Cynulliad rhwng 1999 a 2003.
Wrth groesawu penodiad Ms Williams, dywedodd Llywydd ac Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Riordan: "Mae'r Brifysgol wedi magu cyfeillgarwch hirsefydlog a gwerth chweil gyda Kirsty Williams dros nifer o flynyddoedd. Mae Kirsty'n cyfuno gwybodaeth fanwl am y sector AU gydag ystod eang o brofiad ar draws gwleidyddiaeth a bywyd cyhoeddus. Bydd ei mewnwelediad yn gaffaeliad gwerthfawr wrth lunio ystod o bolisïau a gweithgareddau'r Brifysgol yn y dyfodol."
Mae Cymrodoriaethau Gwadd Nodedig Caerdydd fel arfer yn benodiadau pum mlynedd sy'n cydnabod rhagoriaeth ym meysydd diwydiant, masnach, llywodraeth, sefydliadau ymchwil neu'r celfyddydau.
Bydd rôl Ms Williams yn cyd-fynd ag Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, canolfan addysgu ac ymchwil o ansawdd uchel sy'n cael ei chydnabod yn rhyngwladol.
"Rydym yn falch iawn o groesawu penodiad Kirsty fel Cymrawd Gwadd Nodedig," meddai'r Athro Tom Hall, Pennaeth Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol.
"Fel cyn Weinidog Addysg Llywodraeth Cymru, mae Kirsty'n dod â mewnwelediad manwl i'r sector AU yng Nghymru a chyfoeth o arbenigedd polisi cyhoeddus a all lywio ac ysgogi cyfran fawr o ymchwil yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol. Gallai ei mewnwelediad hefyd fod yn ddefnyddiol i grwpiau o fewn SPARK - Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol - ac ar draws y Brifysgol yn ehangach."
Mae SPARK yn dwyn ynghyd 12 grŵp ymchwil gwyddorau cymdeithasol i fynd i'r afael â heriau cymdeithasol mawr, o newid yn yr hinsawdd ac iechyd plant i droseddu a diogelwch. Mae'r grwpiau'n symud i ganolfan arloesi bwrpasol - sbarc | sbark – ar Gampws Arloesedd Caerdydd yn ddiweddarach eleni.