Seryddwyr sy'n ymchwilio i farwolaeth galaethau cyfagos i ddatrys y pos
2 Tachwedd 2021
Mae gwyddonwyr wedi darparu'r dystiolaeth gliraf eto o'r prosesau sy'n lladd galaethau mewn rhanbarthau cyfagos o'r Bydysawd.
Mewn papur newydd a gyhoeddir heddiw, mae tîm rhyngwladol o seryddwyr yn dweud bod y galaethau'n cael eu dwyn o'u nwy moleciwlaidd – y tanwydd sydd ei angen i eni sêr newydd – mewn proses sydd, hyd yma, wedi parhau'n ddirgelwch.
Gan ddefnyddio Arae Milimedr/Isfilimedr Mawr Atacama (ALMA) o delesgopau yn Chile, mae'r tîm wedi gallu cipio delweddau manwl o Glwstwr Virgo, wedi'i leoli dros 65 miliwn o flynyddoedd golau i ffwrdd o'r Ddaear, ac yn pennu, am y tro cyntaf, yr union brosesau sy'n lladd ei alaethau.
Mae'r tîm wedi dangos bod mecanwaith a elwir yn stripio nwy yn cyrraedd ymhell i'r galïau o fewn Clwstwr Virgo i darfu ar eu nwy moleciwlaidd ac effeithio ar ffurfiant eu sêr.
Mae'r canfyddiadau wedi'u cyhoeddi yng nghyfnodolyn Astrophysical Journal Supplement Series.
Mae gallu galaeth i ffurfio sêr yn cael ei ddylanwadu gan ble mae'r alaeth yn byw yn y Bydysawd a sut mae'n rhyngweithio â'i hamgylchoedd. O'r llu o amgylcheddau gwahanol yn y Bydysawd, mae clystyrau galaeth ymhlith y mwyaf enfawr, poethaf a mwyaf eithafol.
"Mae stripio nwy yn un o'r mecanweithiau allanol mwyaf trawiadol a chythryblus sy'n gallu atal ffurfiant sêr mewn galaethau," meddai prif awdur y papur Dr Toby Brown, o Gyngor Ymchwil Cenedlaethol Canada.
"Mae stripio nwy yn digwydd pan fydd galaethau'n symud mor gyflym drwy blasma poeth yn y clwstwr, bod llawer iawn o nwy moleciwlaidd oer yn cael ei dynnu o'r galaeth – fel pe bai'r nwy'n cael ei ysgubo i ffwrdd gan ysgub gosmig enfawr."
Roedd y tîm yn gallu tynnu delweddau o gyfanswm o 51 o alaethau yng Nghlwstwr Virgo ac arsylwi’r broses o dynnu nwy yn digwydd yn y rhan fwyaf ohonynt.
"Mae'r Clwstwr Virgo gerllaw saith miliwn o flynyddoedd golau ar ei draws ac mae'n cynnwys miloedd o galaethau sy'n baglu drwy plasma gorboeth ar gyflymder o hyd at sawl miliwn cilomedr yr awr," meddai cyd-awdur yr astudiaeth Dr Tim Davis, o Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd.
"Mae'n amgylchedd mor eithafol a garw fel y gellir atal galaethau cyfan rhag ffurfio sêr mewn proses a elwir yn trochoeri galaeth.
"Fodd bynnag, nid oes angen poeni gan nad yw ein galaeth ni, Y Llwybr Llaethog, yn agos at glwstwr Virgo, nac unrhyw glwstwr fel mae’n digwydd, felly nid ydym mewn perygl."
Mae'r canlyniadau newydd yn rhan o Arolwg Olrhain mewn Carbon Monocsid Amgylchedd Virgo (VERTICO), rhaglen fawr sy'n defnyddio telesgop ALMA, sy'n dathlu ei degfed pen-blwydd y mis hwn. Mae ALMA yn cael ei gynnal fel menter ar y cyd gan gonsortiwm o wledydd Ewrop (gan gynnwys y DU), ynghyd ag UDA, Canada, Japan, Taiwan a Chile.
Cymerwyd yr arsylwadau VERTICO diweddaraf rhwng Gorffennaf 2019 ac Ebrill 2021, a gyda mwy i’w cymryd yn y dyfodol, mae'r tîm yn gobeithio datgelu mwy ynghylch sut mae sêr yn ffurfio a galaethau’n esblygu yn yr amgylcheddau mwyaf eithafol yn y Bydysawd. Yn ei dro, bydd hyn yn ein helpu i ddeall ein galaeth ein hunain yn well.
"Cyhoeddwyd yr astudiaeth gyntaf o nwy moleciwlaidd yng nghlwstwr Virgo dros 30 mlynedd yn ôl, ac mae seryddwyr wedi bod yn trafod dylanwad amgylchedd y clwstwr ar y nwy hwn sy'n ffurfio sêr byth ers hynny," meddai Dr Christine Wilson, Athro Prifysgol Nodedig ym Mhrifysgol McMaster a chyd-brif ymchwilydd ar brosiect VERTICO.
"Rwy'n hyderus y bydd data VERTICO yn caniatáu i ni ateb y cwestiwn hirsefydlog hwn, yn ogystal â deall yn union sut mae'r effeithiau amgylcheddol amrywiol hyn yn achosi galaethau clwstwr i gau eu llinell gynhyrchu sêr."