Dr David Beard yn sicrhau Cymrodoriaeth Ymchwil gan Ymddiriedolaeth Leverhulme
1 Tachwedd 2021
Mae'r darllenydd Dr David Beard yn yr Ysgol Cerddoriaeth wedi sicrhau Cymrodoriaeth Ymchwil gan Ymddiriedolaeth Leverhulme i gefnogi ei waith ar fonograff, The Music of Judith Weir.
Bydd y gymrodoriaeth 18 mis, sy'n dechrau'r semester hwn, yn arwain at gyhoeddi'r llyfr yn rhan o gyfres 'Music Since 1900' Gwasg Prifysgol Caergrawnt.
Dyma fydd yr astudiaeth sylweddol gyntaf o gerddoriaeth Weir, o’i gwaith cynnar yng nghanol y 1970au hyd at heddiw. Hi yw’r fenyw gyntaf i ymgymryd â swydd Meistr Cerddoriaeth y Frenhines (2014-2024), a bydd yr astudiaeth yn rhoi trosolwg o’i chyfraniad.
Bydd y llyfr yn cyfeirio at sgyrsiau a chyfweliadau helaeth yr awdur â'r gyfansoddwraig dros y 15 mlynedd diwethaf, yn trafod darnau heb eu cyhoeddi ac a dynnwyd yn ôl ac yn dadansoddi brasluniau cerddorol.
Yn benodol, bydd yn archwilio cerddoriaeth Weir o safbwynt rhywedd a hunaniaeth, natur a chymuned, opera, adrodd straeon a theatr gerddorol, ochr yn ochr â'i hymgysylltiad â moderniaeth, rhamantiaeth, cerddoriaeth werin a thraddodiadau hanesyddol ac amhendant eraill, a fydd yn dangos ble mae ei cherddoriaeth arni o’i chymharu â cherddoriaeth ei chyfoedion Prydeinig a chyfansoddwyr benywaidd eraill yn fwy cyffredinol.
Wrth sôn am y dyfarniad, dywedodd Dr David Beard: "Anrhydedd yw sicrhau Cymrodoriaeth Ymchwil gan Ymddiriedolaeth Leverhulme i weithio ar gerddoriaeth Judith Weir. Er ei bod yn ymgymryd â swyddi teilwng Meistr Cerddoriaeth y Frenhines a Llywydd Cymdeithas Frenhinol Cerddorion Prydain Fawr, nid yw cerddoriaeth Weir wedi cael digon o sylw mewn ysgolheictod cerddorol. Mae fy ymchwil yn unioni hyn ac yn cyfrannu at fudiad ehangach sy'n ceisio sicrhau bod artistiaid a’u cyflawniadau’n cael eu cynrychioli’n fwy.”