Set ddata newydd wedi’i dyfeisio ar gyfer ymchwil i’r hinsawdd
2 Tachwedd 2021
Mae tîm o dan arweiniad academyddion o Brifysgol Caerdydd wedi cyhoeddi set ddata mynediad agored yn y cyfnodolyn Scientific Data gan Grŵp Cyhoeddi Nature. Mae modd defnyddio’r set hon i helpu ymchwilwyr y dyfodol a fydd yn astudio effeithiau newid hinsawdd ar y gylched ddŵr o gwmpas y byd.
Mae’r data ffynhonnell agored hyn yn canolbwyntio ar ffenomen o’r enw AnweddTrydarthiad Potensial (Potential EvapoTranspiration (PET)), sy’n mesur faint o ddŵr mae’r atmosffer yn gallu ei ddal ar unrhyw adeg benodol. Mae’n cael ei gyfrifo drwy gyfuno’r egni, yr aerodynameg, a’r lleithder ar lefel yr arwyneb.
Dyma’r set ddata fyd-eang gyntaf o’i math, sy’n rhoi data PET dros gydraniad yr awr (hPET), yn mynd yn ôl dros bron i bedwar degawd. Bydd bod â mynediad agored i’r math hwn o ddata cydraniad uchel yn galluogi ymchwilwyr i ddeall, er enghraifft, sut mae glawiad dros gyfnod byr yn gallu effeithio ar leithder y pridd a faint mae planhigion yn ei gymryd.
Un enghraifft yn unig yw hon, mae gallu olrhain y data hyn yn bwysig i awdurdodau rheoli llifogydd er mwyn gallu asesu’r amodau sy’n arwain at lifogydd, i gwmnïau dŵr er mwyn ymdrin â chyflenwad a galw tymhorol, ac i ecolegwyr er mwyn astudio sut mae rhywogaethau o lystyfiant neu gnydau penodol yn dioddef straen adeg sychder.
Er mwyn adeiladu’r set ddata hon, seiliodd y tîm o dan arweiniad Dr Michael Singer o Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a’r Amgylchedd eu gwaith ar allbwn o set ddata ail-ddadansoddi ERA5-Land, sy’n rhan o Ddata Hinsawdd Gwasanaeth Newid yn yr Hinsawdd Copernicus (C3S), a chymharu eu canlyniadau â setiau data a oedd yn bodoli’n barod. Dangosodd hyn fod gan hPET batrwm cyffredinol tebyg i’r amrywiad PET byd-eang, sy’n gyson â’r setiau data presennol.
Gan fod y set ddata hPET yn cynnig gwelliannau o ran cydrannau graddfeydd amser a lleoliadau ledled y byd, mae’r tîm wedi darparu adnodd newydd gwerthfawr er mwyn astudio effeithiau anweddtrydarthiad mewn hinsawdd sy’n newid.
Mae’r ymchwilwyr yn bwriadu diweddaru’r set ddata hon bob blwyddyn, gan sicrhau bod gan ddefnyddwyr wybodaeth hanesyddol a diweddar i seilio ymchwil arni ac i gynllunio ymyriadau.
Datblygwyd y set ddata gan Dr. Mark Cuthbert ac Andrés Quichimbo o Gaerdydd ynghyd ag ymchwilwyr o Brifysgol Bryste a Phrifysgol Ghent.
Mae’n bosibl gweld y papur ‘Hourly potential evapotranspiration at 0.1° resolution for the global land surface from 1981-present’ ar-lein ar y cyfnodolyn Scientific Data.