Ewch i’r prif gynnwys

Cofrestru ar agor ar gyfer cyfarfod blynyddol a darlith gyhoeddus Sefydliad Hodge

29 Hydref 2021

Purple neurons

Mae Sefydliad Ymchwil Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl Prifysgol Caerdydd a Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau yn cynnal Cyfarfod Blynyddol Sefydliad Hodge ar Niwroimmunoleg. Cynhelir yn rhithwyr a bydd yn cynnwys sesiwn academaidd ac yna darlith gyhoeddus.

Bydd y digwyddiad eleni yn dechrau gyda chyflwyniad gan yr Athro Jeremy Hall a bydd yn cynnwys sesiwn academaidd lle bydd Mat Clement, Eva Periche Tomas, Jonathan Davies, a Malik Zaben yn trafod eu hymchwil.

Yn dilyn y sesiwn academaidd, bydd y digwyddiad yn cynnwys darlith gyhoeddus gan yr Athro Andy Miller, athro seiciatreg a gwyddorau ymddygiadol o Brifysgol Emory.

Teitl ei sgwrs yw Effaith Llid ar yr Ymennydd ac Ymddygiad mewn Iselder: Mecanweithiau a Goblygiad Trosiadol a cheir sesiwn holi ac ateb a thrafodaeth i ddilyn.

Mae Canolfan Hodge ar gyfer Imiwnoleg Niwroseiciatrig yn dod ag ymchwilwyr arbenigol ym meysydd niwrowyddoniaeth ac imiwnoleg ynghyd er mwyn canolbwyntio ar brosesau imiwnedd mewn anhwylderau iechyd fel clefyd Alzheimer a Sgitsoffrenia.

Cynhelir Cyfarfod Blynyddol Sefydliad Hodge ar Niwroimiwnoleg ar 18 Tachwedd. Bydd yn dechrau gyda'r sesiwn academaidd rhwng 1:00-3:30pm ac yna’r ddarlith gyhoeddus rhwng 3:40-4:35pm.

Mae'r ddarlith gyhoeddus yn agored i unrhyw un sydd â diddordeb. Cofrestrwch ar-lein yn https://hodgelecture21.eventbrite.co.uk.

Rhannu’r stori hon