Ewch i’r prif gynnwys

Myfyrwyr PhD yn ennill eu gornest leol yng Nghystadleuaeth Papur Pobl Ifanc IGEM.

2 Tachwedd 2021

Llongyfarchiadau i Qikun Chen a Amirreza Azimipoor, enillwyr gornest Adrannau Cymru a De-orllewin Lloegr eleni yng Nghystadleuaeth Papur Pobl Ifanc Sefydliad y Peirianwyr a Rheolwyr Nwy.

Cystadleuaeth flynyddol yw'r Gystadleuaeth Papur Pobl Ifanc (YPPC) a drefnir gan Rwydwaith Pobl Ifanc Sefydliad y Peirianwyr a Rheolwyr Nwy. Mae'n gadael i weithwyr proffesiynol ifanc a myfyrwyr ym maes nwy arddangos eu gwaith o flaen cynulleidfa amrywiol o arweinwyr diwydiant proffesiynol.

Bu Qikun ac Amirreza'n cystadlu gyda rhai o'r bobl ifanc fwyaf talentog yn y maes yng ngornest yr Adran leol ar 30 Medi, lle rhoddon nhw gyflwyniad llafar byr ac ateb cwestiynau gan banel o feirniaid.

Roedd cyflwyniad buddugol Qikun, ‘Optimal operation of compressors in an integrated gas and electricity system’ yn edrych ar leihau allyriadau a chostau ar lefel cywasgydd mewn rhwydweithiau nwy. Modelodd Qikun rwydweithiau nwy de Cymru a de-orllewin Lloegr i ragweld sut y gallai'r system weithio yn y dyfodol i gyflawni targedau di-garbon.

Daeth Amirreza'n ail gyda'i gyflwyniad ‘Transporting hydrogen via South Wales gas network.’ Roedd ei waith yn dangos y byddai rhwydwaith pwysedd uchel de Cymru'n gallu gweithredu yn y dyfodol gyda nwy hydrogen pur yn hytrach na nwy naturiol. Byddai defnyddio'r rhwydwaith nwy ar gyfer hydrogen yn lleihau costau cludiant ac mae'n gwneud hydrogen yn ffordd fwy fforddiadwy o gyflawni'r targed di-garbon.

Bydd Qikun yn mynd ymlaen i gystadlu yn rownd derfynol genedlaethol IGEM 2021 YPPC ym mis Rhagfyr.

Rhannwyd digwyddiad YPPC gydag Adrannau IGEM Cymru ac IGEM De-orllewin Lloegr ac fe'i cynhaliwyd ar-lein.. Y beirniaid oedd Sarah Williams (Cyfarwyddwr Rheoleiddio, WWU), yr Athro Philip Bowen, Prifysgol Caerdydd ac aelod o CEG ) a Katie Ling (Swyddog Cymorth Cwsmeriaid) – un o enillwyr y llynedd.

Llongyfarchiadau mawr i Qikun ac Amirreza ar y gydnabyddiaeth wych hon i ansawdd eu hymchwil ddoethurol.

Rhannu’r stori hon