Myfyriwr meddygol wedi'i enwi fel un o 150 o Arweinwyr Dyfodol Caribïaidd Affrica ac Affrica Gorau yn y DU
27 Hydref 2021
Mae myfyriwr meddygaeth o Brifysgol Caerdydd wedi'i henwi'n un o'r 150 Uchaf o blith Arweinwyr Affricanaidd ac Affricanaidd Caribïaidd y Dyfodol yn y DU ar gyfer 2021/22.
Mae'r myfyriwr pedwaredd flwyddyn a'r ysgolor ar raglen yr Academi Arweinyddiaeth Gofal Iechyd Ellen Nelson-Rowe wedi'i rhestru'n un o'r myfyrwyr a graddedigion newydd Affricanaidd Caribïaidd mwyaf eithriadol yng nghylchgrawn Future Leaders, a ddefnyddir fel model rôl i ysbrydoli a chodi cyrhaeddiad.
Mae Ellen ymhlith y 150 myfyriwr terfynol a ddewiswyd i gael eu cynnwys yn y cyhoeddiad. Mae'n ymuno â 28 o fyfyrwyr eraill ar frig categori nodedig Meddygaeth eleni. I fod yn gymwys ar gyfer rhestr Future Leaders, rhaid i fyfyrwyr fod o dras Affricanaidd neu Affricanaidd Caribïaidd, yn 25 oed neu iau, mewn addysg prifysgol yn y DU ac â chyfartaledd graddau o 60 y cant neu uwch ar hyn o bryd. Yn ogystal rhaid iddynt gymryd rhan mewn gweithgareddau y tu hwnt i'w hastudiaethau, sy'n dangos eu bod yn unigolyn nodedig.
Gwnaeth entrepreneuriaeth Ellen argraff ar ei chyfoedion, gan ennill enwebiad a lle ar y rhestr iddi. Yn dilyn ei chyfnod llwyddiannus yn Llywydd y Gymdeithas Feddygol Affricanaidd Caribïaidd ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2020-21, rôl a ddefnyddiodd i ddylanwadu ar newid yn yr ysgol meddygaeth, fe'i gwahoddwyd i ddod yn gynrychiolydd myfyrwyr ar gyfer Prosiect Cydweithredol Hil Mynediad a Llwyddiant, rhaglen gyfoethogi a gyllidir gan CCAUC i ddatblygu cydraddoldeb hiliol mewn addysg uwch. Yn y rôl hon mae wedi cyfrannu at waith i ddiweddaru cynlluniau gweithredu cydraddoldeb hiliol y brifysgol.
Wrth siarad am ei llwyddiant, dywedodd Ellen: "Mae'n teimlo'n gyffrous cael fy nghydnabod am fy effaith yn ystod fy nhaith fel arweinydd hyd yma. Fel llywydd y Gymdeithas Feddygol Affricanaidd Caribïaidd, roeddwn yn gallu dylanwadu ar gychwyn Tasglu Cydraddoldeb Hiliol Myfyrwyr a Staff i fynd i'r afael ag anghenion hil ac amrywiaeth yn yr ysgol meddygaeth, yn sgil marwolaeth drasig George Floyd.
"Mae'r gweithgor wedi cyfrannu at ddiweddaru'r polisi codi pryderon, datgoloneiddio'r cwricwlwm, llunio digwyddiad calendr mis Hanes Pobl Dduon a'r Diwrnod Ymwybyddiaeth Hil cyntaf dros ddeuddydd. Ynghyd â chydweithiwr, cyflwynais weithdai i staff a myfyrwyr ar integreiddio cymhwysedd diwylliannol yn y gweithle. Mae hyn hefyd wedi dylanwadu ar weithgorau bwlch cyrhaeddiad ar lefel y brifysgol.
Dywedodd Pennaeth yr Ysgol Meddygaeth, yr Athro Steve Riley: "Mae wedi bod yn fraint a phleser llwyr cael gweithio gydag Ellen dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Mae gan Ellen ymagwedd adeiladol, gydweithredol a chydwybodol fydd yn ei galluogi i adeiladu ar ei chyflawniadau sylweddol hyd yma. Mae'r effaith o fewn yr Ysgol Meddygaeth yn amlwg i bawb, ac rwy'n siŵr y bydd yn parhau i ddylanwadu ac arloesi yn y blynyddoedd i ddod."