Penodi Cadeirydd newydd i Gyngor y Brifysgol
26 Hydref 2021
Prif weithredwr y cyfryngau, Patrick Younge (BSc 1987) yw pennaeth corff llywodraethu Prifysgol Caerdydd o 1 Ionawr 2022.
Cyngor yw corff llywodraethu'r Brifysgol yn y pen draw sydd â phŵer dros bob penderfyniad. Mae penodiad Patrick fel Cadeirydd yn dilyn proses recriwtio gystadleuol. Cadarnhawyd ei swydd gan Gyngor y Brifysgol yn ei gyfarfod ddydd Gwener 22 Hydref 2021.
Dywedodd Patrick: "Mae'n anrhydedd ac yn fraint fawr cael fy mhenodi'n Gadeirydd newydd Cyngor Prifysgol Caerdydd. Deuthum i'r Brifysgol fel myfyriwr bron i 40 mlynedd yn ôl, a syrthiodd mewn cariad â'r Brifysgol, y ddinas a Chymru. Rwy'n arbennig o awyddus i gefnogi gwaith parhaus y Brifysgol i ddarparu profiad addysgol gwirioneddol drawsnewidiol yng nghanol prifddinas Cymru, ac fel pwerdy ymchwil yn y DU sy'n dal ei hun ar lwyfan y byd."
Ers graddio o Brifysgol Caerdydd gyda BSc mewn Manteisio ar Fwynau, mae Patrick wedi dod yn un o brif ffigurau cyfryngau'r DU gyda gyrfa ryngwladol ym myd teledu a'r cyfryngau.
Mae'n gyn Brif Swyddog Creadigol ar gyfer Cynhyrchu Teledu'r BBC, gan arwain dros 3000 o staff yn gweithio ar draws lleoliadau'r DU a chreu rhai o sioeau mwyaf y DU gan gynnwys Natural History, Dr Who, Strictly Come Dancing a Top Gear.
Cyn ei rôl gyda BBC Television Production, cafodd ei recriwtio gan Discovery Communications Inc. i droi rhwydwaith teledu Americanaidd o gwmpas.
Mae hefyd wedi gweithio i BBC News, BBC Sport, ITV, a Channel 4, ac mae'n parhau i fod yn gyd-Reolwr Gyfarwyddwr Cardiff Productions Ltd, cwmni cynhyrchu cynnwys yng Nghaerdydd.
Yn 2007, dyfarnwyd Cymrodoriaeth i'r Gymdeithas Deledu Frenhinol iddo ac fe'i dewiswyd gan y Powerlist fel un o'r 100 o bobl Ddu fwyaf dylanwadol ym Mhrydain ar chwe achlysur.
Nid yw Patrick ychwaith yn ddieithr i lywodraethu'r Brifysgol. Mae'n Llywodraethwr annibynnol ym Mhrifysgol Gorllewin Llundain, lle mae'n Is-gadeirydd y bwrdd ar hyn o bryd ac yn aelod o nifer o'i is-bwyllgorau. Bydd yn sefyll i lawr o'r rolau hyn i ymgymryd â'i benodiad newydd.
Yn ogystal â chyn-fyfyriwr, mae Patrick hefyd yn gyn-Lywydd Undeb Athletau'r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr yn ogystal ag Is-lywydd, Addysg Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (UCM).
Mae Patrick yn cymryd yr awenau oddi wrth y Cadeirydd presennol, yr Athro Stuart Palmer, sy'n ymddiswyddo fel Cadeirydd ar ôl wyth mlynedd yn y swydd.
Meddai’r Is-Ganghellor, yr Athro Colin Riordan: "Rwy'n falch iawn o groesawu Patrick Younge yn ôl i Brifysgol Caerdydd i ymgymryd â rôl Cadeirydd y Cyngor.
"Fel cyn-fyfyriwr, a chyda chysylltiadau agos â Chaerdydd, mae'n deall y Brifysgol a'i safle yng Nghymru sy'n hanfodol i'r rôl. Mae'n dod â chyfoeth o brofiad gydag ef, mewn rolau uwch reolwyr a'r cyfryngau, ac edrychaf ymlaen at weithio gydag ef.
"Hoffwn ddiolch yn ddiffuant hefyd i'r Athro Palmer, Cadeirydd y Cyngor sy'n gadael, am ei waith a'i ymroddiad yn ystod ei gyfnod yn y Brifysgol. Rwy'n dymuno'r gorau iddo yn ei ymdrechion nesaf."
Ychwanegodd yr Athro Palmer: "Rwy'n falch iawn o groesawu Patrick Youngeyn Gadeirydd cyngor nesaf Caerdydd. Mae profiad Patrick fel cyn-fyfyriwr o Brifysgol Caerdydd, fel cyn-Lywydd Undeb y Myfyrwyr, fel Is-lywydd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr ac, yn dod yn gyfredol, fel Is-gadeirydd Corff Llywodraethol Prifysgol Gorllewin Llundain, yn ei wneud yn unigryw gymwys i ymgymryd â'r rôl.
"At hynny, bydd ei gefndir ym maes darlledu, a'r cyfryngau yn fwy cyffredinol, yn rhoi cipolwg gwerthfawr i'r Brifysgol ar faes sydd o bwys mawr nawr ac yn y dyfodol.
"Mae'n bleser mawr gennyf ddymuno pob llwyddiant i Patrick. Rwy'n siŵr y bydd yn mwynhau'r her."
Dysgwch fwy am strwythur sefydliadol y Brifysgol a rôl Cyngory Brifysgol.