Fideo: Brexit ac Ynys Iwerddon
26 Hydref 2021
Traddododd yr Athro Brigid Laffan Ddarlith Flynyddol gynhwysfawr a grymus ar gyfer Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd.
Gan mlynedd ers rhaniad Iwerddon, traddododd Brigid Laffan ddarlith a ddadansoddodd ymateb gwladwriaeth Iwerddon i Brexit, gan ganolbwyntio'n benodol ar 'Ewropeiddio'r' y ffin ar yr ynys.
Esboniodd fod ymateb i Brexit yn un o ymgymeriadau mwyaf gwladwriaeth Iwerddon yn ystod yr hanner can mlynedd diwethaf o leiaf, gydag adnoddau'n cael eu arllwys i strategaeth ddiplomyddol Ewropeaidd a byd-eang i ddiogelu buddiannau Iwerddon.
Gellir gweld fideo isod.