Cartref eiconig rygbi Cymru i gynnal digwyddiadau graddio Prifysgol Caerdydd
27 Hydref 2021

Bydd miloedd o raddedigion Prifysgol Caerdydd yn cael cyfle unwaith mewn oes i gael eu capiau o flaen ffrindiau a theulu yng nghartref eiconig rygbi Cymru – Stadiwm Principality.
Bydd y stadiwm 73,000 o seddi yn croesawu graddedigion o Ddosbarth 2020, 2021 a 2022 Prifysgol Caerdydd. Gwahoddir nhw a'u teulu a'u ffrindiau i ddychwelyd i brifddinas Cymru i fynychu'r digwyddiad dathlu unigryw hwn.

“Rydym yn gwybod pa mor galed y bu'r blynyddoedd diwethaf i'n holl fyfyrwyr a pha mor siomedig oedd hi pan wnaethom y penderfyniad anodd i ohirio seremonïau graddio wyneb yn wyneb oherwydd y pandemig,” meddai'r Is-Ganghellor, yr Athro Colin Riordan.
“Dyna pam y gwnaethom roi ymrwymiad i gynnal digwyddiadau wyneb yn wyneb pan oedd yn ddiogel gwneud hynny. Doedden ni ddim yn gallu meddwl am leoliad gwell i gynnal y digwyddiad graddio untro hwn na Stadiwm Principality - calon rygbi Cymru.”
Er y gallai llawer o ddosbarth 2020 a 2021 fod wedi symud i ffwrdd, mae'r Brifysgol am annog pob cynfyfyriwr cymwys i ddychwelyd i Gaerdydd fel y gellir dathlu eu cyflawniadau.

“Rydym yn gwybod bod llawer o raddedigion wedi symud ymlaen i fentrau newydd cyffrous. Ond rydym yn gobeithio y bydd cymaint o gyn-fyfyrwyr â phosibl yn dychwelyd i Gaerdydd i ddathlu eu llwyddiannau addysgol gyda'u ffrindiau a'u teuluoedd yn un o leoliadau mwyaf eiconig y byd. Rydym yn edrych ymlaen at eu croesawu'n ôl i'r ddinas i gymeradwyo eu llwyddiannau gwych.”

Dywedodd Cadeirydd Undeb Rygbi Cymru, Rob Butcher: “Rydym wrth ein bodd bod Prifysgol Caerdydd wedi dewis Stadiwm Principality fel lleoliad i gynnal y digwyddiad graddio unigryw hwn yn 2022.
“Gall myfyrwyr rannu yn y foment arbennig hon gyda theulu a ffrindiau ar yr un tir hanesyddol sydd wedi gweld arwyr rygbi yn ennill pencampwriaethau ac eiconau cerddorol fel The Rolling Stones a Beyonce yn perfformio. Edrychwn ymlaen at greu digwyddiad ysblennydd gyda'r tîm ym Mhrifysgol Caerdydd i ddathlu llwyddiant ei graddedigion Addysg Uwch.”
Dywedodd Hannah Doe, Llywydd Undeb y Myfyrwyr: “Mae myfyrwyr wedi dangos gwydnwch mawr drwy gydol y pandemig a pha ffordd well o ddathlu llawer o heriau a chyflawni llwyddiannau mawr na dod at ei gilydd yn bersonol yn y stadiwm y flwyddyn nesaf.

“Mae Stadiwm Principality eisoes yn lle arbennig yng nghalonnau myfyrwyr fel lleoliad cartref y gêm Varsity - a nawr i lawer, dyma fydd dathliad olaf eu cyfnod ym Mhrifysgol Caerdydd.”
Yn amodol ar gyfyngiadau COVID-19, cynhelir dathliadau Graddio 20, 20 a 21 Gorffennaf y flwyddyn nesaf.
Cewch ragor o wybodaeth ar ein gwefan: www.caerdydd.ac.uk/graduation